Sioned a Patrick Young, OPRA Cymru
Mae OPRA Cymru wedi lansio cystadleuaeth i ddod o hyd i enw Cymraeg ar y opera Yevgeniy Onegin gan Tchaikovsky.

Bydd y cwmni yn perfformio’r opera o amgylch Cymru yn mis Medi ac mae’r Prif Weithredwr yn awyddus iawn i gael yr enw cyn diwedd Mai.

Nofel gan yr awdur Alexander Pushkin gyhoeddwyd yn Rwsia yn yr 1830au yw sail yr opera, gafodd ei pherfformio gyntaf ym Moscow yn 1879.

“Mae’r gwaith cyffrous o greu’r fersiwn Gymraeg ar y gweill ar hyn o bryd ond mae hi yn her ychwanegol i gyfieithu’r teitl gan nad yw enw’r prif cymeriad, sef teitl yr opra wreiddiol, yn un cyffredin yng Nghymru – nid yw felly yn glir i’r cyhoedd yng Nghymru mai enw person yw’r teitl o gwbl,” meddai’r Cyfarwyddwr Artistig Patrick Young.

“Mae angen i deitl fod yn afaelgar wrth gwrs ond ar yr un pryd ni ellir newid yr enw yn llwyr gan y bydd hyn yn tynnu’r opera o’i gynefin naturiol yn Rwsia.

“Hyd y gwyddom ni dyma fydd y tro cyntaf erioed i’r opera yma gael ei berfformio yn Gymraeg mae hi felly yn hollbwysig bod yr enw yn drawiadol ac yn taro deuddeg. Rydym yn awyddus i glywed wrth unrhyw un a all gynnig syniad am yr enw perffaith. Mae angen teitl sy’n gafael ac yn cwmpasu’r opera.”

Gellir anfon ceisiadau at: OPRA Cymru Cyf, Llech Ronw, Cwm Cynfal, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 4PY neu trwy e-bostioopra.cymru@yahoo.com.

Y dyddiad cau yw 23 Mai a bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod yr Urdd, Meirionnydd. Bydd yr enillydd yn cael dau docyn am ddim i berfformiad o’i ddewis.