Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn galw am ddeddfwriaeth i sicrhau bod ffermwyr llaeth yn cael rhybydd digonol am ostyngyniad yn y pris.

Mae un o gyn-gadeiryddion pwyllgor llefrith a chynnyrch llaeth yr undeb yn dweud ei fod yn tu hwnt o siomedig bod dau gwmni llaeth mawr yn bwriadu gostwng y pris mae nhw’n ei dalu i’r ffermwyr yn ystod yr wythnosau nesaf a hynny ar fyr rybydd.

“Rydan ni’n tu hwnt o siomedig bod pris llefrith yn gostwng ar yr union adeg y mae’r diwydiant yn cychwyn ad-ennill yr hyder y mae ei angen er mwyn buddsoddi yn y dyfodol,” meddai Eifion Huws, sy’n berchen fferm odro ym Modedern ar Ynys Môn.

Bydd cwmni Arla yn gostwng y pris i’r ffermwr o 1.27 ceiniog am bob litr o dydd Llun nesaf (28 Ebrill) sy’n golygu mai 33.74 ceiniog fydd y ffermwr yn ei dderbyn.

Mae cwmni Dairy Crest eisoes wedi cyhoeddi gostynigad o 0.435 ceiniog am bob litr yn ddiweddar, sy’n golygu mai rhwng 32.315 a 32.125 fydd y ffermwr yn ei gael ganddyn nhw.

Roedd y ddau gwmni wedi cyhoeddi eu bod yn cefnogi côd ymarfer gwirfoddol y diwydiant llaeth ym mis Hydref 2012 ac un argymhelliad yn hwnnw oedd bod angen rhoi 30 diwrnod o rybydd cyn newid prisiau.

Ychydig ddyddiau yn unig o rybydd roddwyd gan y cwmniau eu bod am newid y prisiau y tro yma beth bynnag.

“Dyw Arla ddim yn derbyn bod angen rhybydd o 30 diwrnod ar gyfer rhai cyflenwyr, “ meddai Eifion Huws.

“Mae’r ffaith eu bod yn gallu gostwng y pris o fewn pedwar niwrnod – tra bod cwmniau eraill yn cadw at y côd – yn golygu y gall bod yna achos cryf am ddeddfu ar y mater yma,” ychwanegodd.

Yn ôl ystadegau LLywodraeth Cymru mae nifer y ffermydd llaeth yng Nghymru wedi gostwng o 2,727 yn 2006 i 1,845 yn 2012 – gostyngiad o 900.