Dylan Arwel Rattray oedd enw’r dyn ifanc 21 oed a fu farw ar yr Wyddfa brynhawn dydd Gwener diwethaf.

Roedd y cerddwr o Lanfihangel y Creuddyn ger Aberystwyth ar y ffordd i lawr y mynydd gyda ffrind pan ddisgynnodd 500 troedfedd.

Cafodd Tîm Achub Mynydd Llanberis a hofrennydd yr Awyrlu o’r Fali eu galw i ymateb i’r digwyddiad.

“Yn anffodus, er gwaethaf pob ymdrech i’w achub, roedd y dyn 21 oed eisoes wedi marw,” meddai’r llefarydd.

Mae’r crwner lleol, Dewi Pritchard, wedi dechrau ymchwiliad i’r farwolaeth.