Archesgob Cymru, y Parchedicaf Barry Morgan
Dywed Archesgob Cymru, y Parchedicaf Barry Morgan, mai hanes offeiriad o Syria a menyw o Rwanda sydd wedi ysbrydoli ei neges ar gyfer y Pasg eleni.

Yn ei neges, mae’r archesgob yn cyfeirio at y Tad Francis, offeiriad Jeswit yn ninas Homs yn cael ei saethu’n farw am wrthod gadael ei gynulleidfa Gristnogol fechan.

“Dywedodd  ei fod eisiau bod mewn undod gyda hwy yn eu poen hyd yn oed os oedd hynny’n golygu colli ei fywyd,” meddai.

Mae hefyd yn sôn am Alice, menyw Tutsi o Rwanda, yn maddau i ddyn o lwyth Hutu a dorrodd ei llaw i ffwrdd a lladd ei baban yn yr hil-laddiad 20 mlynedd yn ôl.

“Mae undod a maddeuant yn crynhoi ystyr y Pasg a phan welir y gwerthoedd hyn yn cael eu harddangos, mae rhywun yn dechrau sylweddoli arwyddocâd yr hyn y mae’n ei olygu i gredu yn Nuw Iesu,” meddai’r Archesgob.