Mae gan unigolion a sefydliadau hyd at ddiwedd y dydd heddiw i gyflwyno tystiolaeth i ymchwiliad safonau Comisiynydd y Gymraeg.

Ymchwiliad safonau yw’r broses statudol lle mae’r Comisiynydd yn casglu tystiolaeth gan sefydliadau a’r cyhoedd ynghylch pa safonau yn ymwneud â’r Gymraeg ddylai sefydliadau orfod cydymffurfio â nhw.

Mae 26 sefydliad yn rhan o’r ymchwiliad safonau cyntaf, sef:

  • 22 cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol Cymru
  • 3 Awdurdod Parciau Cenedlaethol Cymru
  • Llywodraeth Cymru

Gall y cyhoedd leisio barn ynghylch beth maent yn credu ddylai’r sefydliadau hyn ei wneud a’i ddarparu yn Gymraeg trwy lenwi holiadur ar wefan y Comisiynydd:comisiynyddygymraeg.org.

Mae’r Comisiynydd wedi bod yn casglu tystiolaeth i’r ymchwiliad safonau ers ddiwedd Ionawr eleni. Bydd y cyfnod casglu tystiolaeth yn cau ddydd Gwener 18 Ebrill 2014.