Fe ddylai’r cynllun iaith a gafodd ei dderbyn gan Gyngor llawn Sir Gâr yr wythnos hon gael ei fabwysiadu gan siroedd eraill Cymru.

Dyna alwad y mudiad Dyfodol i’r Iaith ar ôl i gyngor Sir Gâr dderbyn adroddiad sy’n cynnig 70 o argymhellion i gryfhau’r Gymraeg yn y sir.

Cafodd yr adroddiad ei lunio gan weithgor yn dilyn canlyniadau “argyfyngus” Cyfrifiad 2011. Sir Gaerfyrddin welodd y cwymp mwyaf yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, sef 6%.

Mae’n cynnig argymhellion i gryfhau’r Gymraeg ym myd addysg, cynllunio, busnes, pobol ifanc ac ymgysylltu â’r gymuned.

‘Cam hanesyddol’

Meddai Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith: “Mae’n gam hanesyddol bod Sir yng Nghymru’n derbyn Cynllun Iaith sy’n cwmpasu tai, yr economi, addysg a’r iaith mewn gwaith ac yn y gymdeithas.”

Ychwanegodd: “Mae gan y Cynllun Iaith a gafodd ei dderbyn gan Sir Gâr y gallu i weddnewid sefyllfa’r Gymraeg yn y sir. Mae’n mynd i’r afael â’r rhan fwyaf o’r agweddau sydd o fewn gallu Cyngor Sir.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr iaith yn cael ei defnyddio fwyfwy gan weithwyr yn y Sir, ac at weld y Sir yn cynnig gweithgareddau Cymraeg i bobol ifanc.”

“Cyflwynodd Dyfodol i’r Iaith sylwadau i’r gweithgor oedd yn paratoi’r Cynllun Iaith, ac mae’n dda gweld bod y Cynllun Iaith wedi ymateb mor gadarnhaol.”

Yn ôl y mudiad, mae angen i Lywodraeth Cymru’n awr dderbyn y Cynllun Iaith hwn fel patrwm gweithredu ar gyfer siroedd eraill yng Nghymru.

“Yn y pen draw, defnyddio’r Gymraeg yn y cartref, yn y gymdeithas ac yn y gwaith fydd yn ei diogelu, yn anad dim arall.”