Mae Menter Iaith Cwm Gwendraeth Elli wedi dweud bod newidiadau staffio’r wythnos hon yn “adlewyrchu’r cyffro newydd” o fewn y cwmni.

Ddoe, daeth cadarnhad fod y Fenter wedi penderfynu dod â chyfnod Cathryn Ings fel Prif Weithredwr i ben.

Penderfynodd y Cadeirydd, Sian Thomas ymddiswyddo yn sgil y penderfyniad.

Dr Wayne Griffiths yw’r Cadeirydd newydd, tra bod Nerys Burton wedi cymryd awenau’r Prif Weithredwr.

Mewn datganiad, dywedodd y Fenter fod y penderfyniad i beidio ymestyn cyfnod Cathryn Ings wrth y llyw yn “unfrydol”.

Cafodd ei phenodi’n Rheolwr Busnes yng Ngorffennaf 2012 ac yn dilyn ymddeoliad Deris Williams, daeth hi’n Brif Swyddog dros dro gyda’r bwriad o’i chadw yn ei swydd hyd at yr Eisteddfod eleni.

‘Penderfyniad ar y cyd’

Dywedodd y Fenter am Cathryn Ings: “Penderfyniad ar y cyd rhyngom oedd hwn  a bu cyfnod Cathryn wrth y llyw yn frwd o weithgarwch wrth baratoi’r Fenter at gyfnod a chyfres o newidiadau mewnol er mwyn ymateb i her unrhyw erydiad pellach yn hanes yr iaith.”

Ymddiswyddodd y Cadeirydd, Sian Thomas ddoe gan ddweud mai’r ffordd mae un o is-bwyllgorau’r Fenter yn gwneud penderfyniadau oedd un o’i rhesymau dros adael ei swydd.

Dywedodd wrth raglen Post Cyntaf y BBC fore ddoe ei bod hi’n bryd i’r Fenter “baratoi at y dyfodol”, a bod angen “ail-strwythuro bob hyn a hyn”.

Gwadodd ei bod hi’n cefnu ar y Fenter, a bod ei phenderfyniad yn “agor y drws i rywun newydd”.

‘Sefyllfa ariannol gadarn’

Wrth edrych ymlaen at gyfnod newydd yn ei hanes, dywedodd y Fenter mewn datganiad ei bod mewn “sefyllfa ariannol gadarn ac yn buddsoddi’n helaeth i gynlluniau cyffrous a blaengar er mwyn ateb i’r her ieithyddol”.

Bellach, mae llai na hanner poblogaeth Sir Gâr yn medru’r Gymraeg.

“Mae’r newidiadau staffio yn adlewyrchu’r cyffro newydd ac rydym oll yn edrych ymlaen at ddyfodol positif ac adeiladol i adfer y trai ieithyddol.”