Mae Cadeirydd Menter Iaith Cwm Gwendraeth, Sian Thomas wedi amddiffyn ei phenderfyniad i adael ei swydd yn ystod cyfnod pan fo’r iaith yn dirywio yn Sir Gâr.

Daeth cadarnhad ddoe ei bod hi a’r Brif Weithredwraig, Cathryn Ings wedi penderfynu gadael eu swyddi.

Dywedodd Sian Thomas ddoe mai’r modd y mae un o is-bwyllgorau’r Fenter yn gwneud penderfyniadau yw un o’r rhesymau pam y bu iddi adael.

Cafodd y Fenter ei sefydlu yn 1991 a hi yw’r hynaf yng Nghymru.

Dywedodd Sian Thomas wrth raglen y Post Cyntaf heddiw ei bod hi’n bryd “paratoi at y dyfodol” a bod angen “ail-strwythuro bob hyn a hyn”.

Gwadodd ei bod hi’n “cefnu” ar y Fenter ond, yn hytrach, dywedodd ei bod yn “agor y drws i rywun newydd”.

Dywedodd ar y rhaglen: “Mae eisiau golwg newydd, ffres ar bethau.

“Dwi ddim yn rhoi’r ffidil yn y to ond mae eisiau rhywun ifancach na fi.”

Yn ystod y cyfweliad y bore ma, nid oedd Sian Thomas yn fodlon gwneud sylw am ymadawiad y Brif Weithredwraig Cathryn Ings.

Nid oedd am ateb cwestiynau am adroddiadau bod y fenter yn wynebu trafferthion ariannol ond dywedodd:  “Mae pob busnes yng Nghymru wedi dioddef yn y dirwasgiad ac mae’n anoddach i gael grantiau ac mae angen ailwampio’r caffi a’r siop.”

Bellach, mae llai na hanner poblogaeth y sir yn medru’r Gymraeg.