Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar Gyngor Bro Morgannwg i ymddiheuro am ei ymateb “rhagfarnllyd” i ymgynghoriad am ddarparu gwasanaethau Cymraeg.

Mae’n dilyn ymateb y cyngor i’r ymchwiliad, sy’n cael ei gynnal gan Gomisiynydd y Gymraeg, am y safonau iaith cenedlaethol arfaethedig.

Bydd y safonau iaith yn amlinellu dyletswyddau ar gyrff a chwmnïau i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.

Yn ôl Cymdeithas yr iaith Gymraeg, mae’r cyngor wedi ymateb i’r ymgynghoriad drwy   wneud nifer o honiadau di-sail fel: “Pe bai tendrau yn cael eu cyflwyno yn Gymraeg… byddai cyfrinachedd yn cael ei dorri.”

‘Agwedd hen ffasiwn’

Nawr, mae’r Gymdeithas wedi anfon  llythyr sy’n galw ar y cyngor i gyflwyno ymateb newydd sydd ddim cynnwys “honiadau di-sail a negyddol eu hagwedd tuag at y Gymraeg”.

Meddai Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y llythyr:  “Credwn fod yr ymateb nid yn unig yn amlygu agwedd ofnadwy o hen ffasiwn a negyddol tuag at y Gymraeg, ond hefyd yn amhroffesiynol ac yn ffeithiol anghywir.

“Erfyniwn ar y Cyngor i ymddiheuro’n gyhoeddus am yr ymateb a chyflwyno ymateb newydd yn lle, sydd nid yn unig yn ffeithiol gywir, ond hefyd yn dangos dyhead dros dyfu’r Gymraeg yn y sir.”

Ychwanegodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Does dim lle i’r math yma o agweddau rhagfarnllyd ac anwybodus yn y Gymru gyfoes.

“Dylai’r Cyngor ymddiheuro’n syth a chyflwyno ymateb gwahanol. Ond, yn anffodus, realiti’r ymgynghoriad yma yw bod cynghorau, sefydliadau a chwmnïau yn gweithio’n galed i atal ein dinasyddion rhag byw yn Gymraeg, rhag sicrhau bod ein pobl, yn enwedig ein plant, yn cael mwynhau ein hiaith genedlaethol unigryw.”