Alun Jones Llun: Y Lolfa
Fe all Alun Jones ychwanegu ennill Medal Goffa Syr T H Parry-Williams at ei restr o lwyddiannau – wedi iddo dderbyn yr anrhydedd gan yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Mae’r fedal yn cael ei chyflwyno yn flynyddol i rywun sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol yn eu hardal leol, yn enwedig gyda phobol ifanc.

Yn gyn-athro, beirniad, hyfforddwr a golygydd adnabyddus, mae Alun Jones wedi chwarae rhan bwysig mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru dros y blynyddoedd.

Daw yn wreiddiol o fferm yn ardal Llanpumsaint, Sir Gâr ond mae bellach wedi ymgartrefu yn Chwilog.

Graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe cyn hyfforddi fel athro a dysgu mewn ysgolion ym Mlaenau Ffestiniog, Pontypridd ac Aberystwyth yn ogystal â darlithio yn Adran Addysg Prifysgol Aberystwyth.

Bu hefyd yn Brif Arholwr CBAC Cymraeg Lefel A, ac mae’n parhau i arholi’n llafar o amgylch Cymru.

Erbyn hyn, mae Alun Jones wedi ymddeol o’i waith yn y Brifysgol, ac yn gweithio fel golygydd i wasg Y Lolfa.

Mae’i gyfraniad yn parhau hyd heddiw yn Chwilog, lle mae’n cynorthwyo gyda hyfforddi pobol ifanc yr ardal ers iddo symud i’r ardal.

Bydd Alun Jones yn derbyn y Fedal ar lwyfan y Pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr, sy’n cael ei chynnal yn Y Meysydd Gŵyl, Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli, o 1-9 Awst.