Mae awdures yn galw am brotest wedi i gwmni cyfrifiadurol Apple wrthod cyhoeddi teitlau Cymraeg yr aps dwyieithog mae hi wedi eu cyhoeddi.

Mae Eiry Rees Thomas o’r Tymbl yn dweud fod Apple yn “anwybyddu’r Gymraeg”.

Gyda grant gan Lywodraeth Cymru, mae Eiry Rees Thomas wedi creu tri ap dwyieithog ar gyfer hybu  darllen a llythrennedd yn yr ystafell ddosbarth.

Y Sbridion yw teitl y gyfres, ond maen nhw’n ymddangos ar yr App Store o dan yr enw Saesneg yn unig – sydd, yn ôl yr awdures, yn golygu bod pobol sy’n chwilio am yr aps Cymraeg yn methu dod o hyd iddyn nhw.

“Rydym ni fel Cymry yn talu’r un taliadau i Apple ond yn derbyn llai o wasanaeth,” meddai Eiry Rees Thomas.

“Mae hyn yn galw am brotest torfol.”

Teitlau Cymraeg coll

“Roedd Apple yn barod i roi disgrifiadau o’r aps yn Gymraeg o dan y disgrifiad Saesneg, ond wnaethon nhw ddim derbyn  y teitlau Cymraeg – yn debyg i’r helynt diweddar hefo Amazon,” meddai’r awdures.

“Felly, fydd pobol sy’n chwilio am yr aps o dan y teitlau Cymraeg yn methu dod o hyd iddyn nhw.

“Does dim llawer o bobol yn mynd drwy’r holl ddisgrifiad beth bynnag, felly wnawn nhw ddim cyrraedd y darn Cymraeg.

“Mae’r sefyllfa yn annerbyniol ac yn siomedig iawn.”

Ymateb

Mewn ymateb, dywedodd Apple nad yw Cymraeg yn lleoleiddiad ar yr App Store ar hyn o bryd, ac felly nad oedd modd cyfieithu i’r iaith.

“Mi fyddwn ni’n cadw hyn mewn co’ ar gyfer  y dyfodol,” meddai’r cwmni.