John Griffiths
Mae’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths wedi cyhoeddi nawdd o £2.2 miliwn i hybu’r defnydd o amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yng Nghymru.

Cafodd y nawdd ei gyhoeddi yn Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae manylion cynllun ariannu Llywodraeth Cymru wedi cael eu cyhoeddi.

Fe fydd naw o lyfrgelloedd yn derbyn bron i £1 miliwn i adnewyddu eu cyfleusterau, gyda £400,000 yn mynd i adnewyddu amgueddfeydd, £685,000 i ddatblygu gwasanaethau llyfrgelloedd ac £140,000 ar gyfer archifau.

Mae disgwyl i lyfrgelloedd Pontardawe, Llanilltud Fawr, Elai, Grangetown, Doc Penfro, Llandrindod, Aberfan, Pennard a Cheredigon elwa o’r nawdd.

Mae disgwyl i’r nawdd alluogi Archifau Richard Burton yn Abertawe – un o bedwar archifdy Cymru sy’n elwa o’r cynllun – ymestyn eu casgliad ar y diwydiant dur sy’n rhan o brosiect ‘Dangos ein Metel’.

Bydd Archifau Richard Burton, Archifau Morgannwg, Swyddfa Gofnodion Sir y Fflint, Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru, ac Archifau ac Astudiaeth Leol Wrecsam yn gosod eu harchifau am y diwydiannau dur a haearn ar y we.

‘Hyrwyddo ein diwylliant’

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths: “Mae’r buddsoddiad hwn i’w groesawu ac fe fydd yn galluogi amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol i ddatblygu eu gwasanaethau, gwella eu cyfleusterau ac annog rhagor o ddefnydd ymhlith y cyhoedd.

“Fe fydd yn hyrwyddo ein diwylliant a threftadaeth gyfoethog ac yn sicrhau y gall rhagor o bobol gael mynediad i’n casgliadau a’u mwynhau.

“Mae’r diwydiant dur wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad Cymru ac fe fydd y prosiect ‘Cymru: Dangos ein Metel’ yn galluogi ymchwilwyr o bob oedran i ddeall gwaddol y diwydiant dur a’i effaith o hyd ar gymunedau Cymru.

“Heb gefnogaeth gwasanaethau archifau a’r buddsoddiad hwn, mae’n bosib y gallai’r cofnodion hyn fod wedi’u colli ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Ychwanegodd Pennaeth Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe, Elisabeth Bennett fod y nawdd yn eu galluogi i “gatalogio’r archifau a’u gwneud nhw’n hygyrch, ac fe fyddwn yn gallu gwneud hanes cyffrous y diwydiant dur yn hygyrch i bawb”.