Betsan Powys
Mae Radio Cymru â Chyngor Llyfrau Cymru yn cynnal ymgyrch i ddod o hyd i Hoff Fardd Cymru, ac wedi dewis deg o feirdd enwocaf y wlad i fynd benben a’i gilydd.

Y deg bardd sydd wedi eu gosod ar restr fer Hoff Fardd Cymru yw: Dic Jones, Gerallt Lloyd Owen, Gwenallt, Gwyn Thomas, Iwan Llwyd, Mererid Hopwood, R Williams Parry, T Gwynn Jones, T H Parry-Williams a Waldo Williams.

Bydd arbenigwyr yn trafod gwaith y beirdd dros yr wythnosau nesaf ac yn annog gwrandawyr Radio Cymru i bleidleisio dros eu hoff fardd ar raglen foreol Shân Cothi, Bore Cothi, am 10 y bore.

Rhwng 14 a 28 Ebrill bydd modd i wrandawyr Radio Cymru bleidleisio dros eu hoff fardd ar y we – a bydd enw’r bardd buddugol yn cael ei ddatgelu ar 1 Mai.

‘Cyfle i ddathlu’

Dywedodd Betsan Powys, Golygydd Rhaglenni BBC Radio Cymru: “Fel gorsaf sy’n dathlu barddoniaeth yn gyson ac sydd newydd ddechrau cydweithio â bardd preswyl bob mis, mae rhoi’r cyfle i wrandawyr Radio Cymru ddewis eu hoff fardd Cymraeg yn beth cyffrous iawn.”

Ychwanegodd Elwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Y llynedd cafwyd ymgyrch lwyddiannus i ddewis Hoff Awdur Cymru, pryd y daeth Caryl Lewis i’r brig, ac rydym yn sicr y caiff yr ymgyrch hon yr un sylw.

“Mae’r Cymry wedi rhoi lle haeddiannol i’w beirdd ar hyd y blynyddoedd a dyma ni’n cael cyfle eto i ddathlu eu gwaith a phori yn eu cyfrolau.”