Nick Clegg
Yng nghynhadledd Gymreig y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghasnewydd heddiw mae arweinydd y Blaid a  Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Prydain, Nick Clegg, wedi ymrwymo ei blaid i ddatganoli pwerau newydd i Gymru.

Dywedodd yn ei araith i’r gynhadledd ei fod am i’r Democratiaid Rhyddfrydol arwain y ffordd ar weithredu argymhellion ail adroddiad Comisiwn Silk trwy addo trosglwyddo pwerau mewn ystod eang o feysydd.

Mae’r rhain yn cynnwys plismona, S4C, trafnidiaeth, tâl athrawon, a charthffosiaeth.

“Mae’r Glymblaid wedi dechrau gweithio ar weithredu argymhellion rhan gyntaf adroddiad Silk, a throsglwyddo trethi a phwerau benthyg i Gymru. Ond rydw i eisiau mynd yn bellach,” meddai.

Roedd yn ymwybodol nad oedd y Ceidwadwyr – partneriaid y Democratiaid Rhyddfrydol yn y glymblaid sy’n llywodraethu yn San Steffan – yn eiriolwyr cryf dros ddatganoli, meddai. “Ond dim ots am hynny gan ei bod ni,” ychwanegodd.