Comisiynydd y Gymraeg
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi creu fideo er mwyn dangos i’r cyhoedd sut gallan nhw ddweud beth maen nhw’n deimlo sy’n rhesymol i sefydliadau ei wneud a’i ddarparu yn Gymraeg.

Y cyflwynydd Heledd Cynwal yw llais a wyneb y fideo.

Mae’r fideo yn rhoi cyflwyniad i’r broses ymchwiliadau safonau. Proses statudol yw ymchwiliadau safonau lle mae’r Comisiynydd yn casglu tystiolaeth gan sefydliadau a’r cyhoedd ynghylch pa safonau yn ymwneud â’r Gymraeg ddylai sefydliadau orfod cydymffurfio â nhw.

Ddim wastad yn hawdd

Wrth lansio’r fideo, dywedodd llefarydd ar ran y Comisiynydd:

“Nid yw hi bob amser yn hawdd cyflwyno proses statudol, gyfreithiol, mewn ffordd sy’n glir i’r cyhoedd. Ond gan mai’r dyletswyddau hyn fydd yn arwain at sefydlu hawliau iaith i bobl, mae hi’n bwysig bod barn a thystiolaeth y cyhoedd yn cael ei glywed.”

Mae’r fideo’n egluro’r broses ac yn dangos i bobl sut gallant ymateb i ymchwiliadau safonau.

“Gobeithiwn y bydd y fideo’n fodd o rannu gwybodaeth am ddyletswyddau iaith yn ehangach ac y bydd yn denu mwy o bobl i leisio barn drwy ymateb i’r ymchwiliadau safonau.”

Y fideo