Mae dyfodol “ansicr” Sain wedi ysbrydoli artist i greu darn o gelf sy’n dwyn i gof hanes cynnar y cwmni recordiau a Thryweryn.

Ers i gwmni Sain – sydd â’i bencadlys yn Llandwrog ger Caernarfon – fynd ar y farchnad yn 2012, mae Rita Ann Jones wedi pryderu y gall y gwaith o hybu cerddoriaeth Gymraeg yn yr ardal ddod i ben.

A dyma sbardunodd ei phrosiect diweddaraf fel myfyriwr aeddfed yng Ngholeg Menai ym Mangor, a fydd yn cael ei arddangos yn Galeri Caernarfon am y tro cyntaf heddiw.

Bonyn coeden yw canolbwynt y gwaith, gyda phedair cangen yn dod ohono i gynrychioli dros 40 mlynedd Sain yn rhyddhau recordiau Cymraeg.

Mae record hir feinyl yn gorffwys yn simsan ar y top, i gyfleu’r “ansicrwydd” dros ddyfodol y cwmni.

Yn ogystal, mae drych crwn ar waelod y bonyn, a bydd ffilm o ddŵr Tryweryn yn cael ei redeg o’r to ac yn adlewyrchu yn y drych yn ystod yr arddangosfa.

‘Dŵr’ gan Huw Jones oedd y record gynta’ i Sain ei chyhoeddi yn 1969, ac roedd yn gân am foddi pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn yn 1965.

Nostalgia

“Roedd Sain yn cychwyn pan oeddwn i’n ferch ifanc a dw i’n teimlo’n gryf iawn am hanes a nostaljia cerddoriaeth Gymraeg,” meddai’r artist Rita Jones sy’n 52 oed ac o’r Felinheli.

“Mae o wastad wedi bod yng nghefn fy meddwl i: bechod os fasa Sain yn cael ei werthu ac y basa’r gwaith o hybu recordiau Cymraeg yn dod i ben yn yr ardal.

“Mae yna gymaint o bethau eraill yn symud o’ma i’r de.”

Tryweryn

Wrth fynd ati i wneud gwaith ymchwil am y cwmni, daeth Rita Jones i sylweddoli bod cysylltiad cryf rhwng record gynta’ Sain a boddi Capel Celyn.

Mae ‘Dŵr’ gan Huw Jones – un o sylfaenwyr Sain – yn son am foddi Tryweryn i greu argae.

“Wnes i ffeindio allan bod posib gweld y coed yn Nhryweryn pan mae’r dŵr yn isel,” meddai Rita Jones, sy’n dweud bod ei darn o gelf hefyd yn dwyn i gof cân gan un arall o sylfaenwyr cwmni Sain.

“Mae cysylltiad cryf hefyd hefo’r gân ‘Yma o Hyd’ gan Dafydd Iwan, i gyfleu fod y coed yma o hyd.”

Mae arddangosfa Spectrwm – sef arddangosfa flynyddol myfyrwyr Celf Gain Coleg Menai – yn agor yn y Galeri heno am 6.30 ac yn para tan yr ail o Fai.