Bydd y Manic Street Preachers ymysg y bandiau fydd yn perfformio yn Glastonbury eleni, wrth i’r ŵyl gerddoriaeth ddathlu ei 44fed blwyddyn.

Ymysg yr enwau mawr fydd yn chwarae ar lwyfan y Pyramid eleni mae Kasabian, fydd yn brif act ar y nos Sul, ac Arcade Fire, sydd eisoes wedi’u cyhoeddi fel prif act nos Wener.

Dyw’r trefnwyr heb gyhoeddi eto pwy fydd y prif enw ar y llwyfan enwog nos Sadwrn, ond mae rhai o’r bandiau a chantorion eraill fydd yn chwarae dros y penwythnos yn cynnwys y Pixies, Skrillex ac Elbow.

Fe fydd perfformwyr poblogaidd fel Ed Sheeran, Jack White, John Newman, MGMT a Jake Bugg ymysg yr 87 enw sydd wedi’u cyhoeddi hyd yn hyn.

Cafodd albwm diwethaf y Manics, Rewind the Film, ei chyhoeddi ym mis Medi’r llynedd, gan gyrraedd rhif pedwar yn siartiau albwm Prydain.

Mae’r band o’r Coed Duon yn ne Cymru – sy’n cynnwys y prif leisydd James Dean Bradfield, y baswr Nicky Wire a Sean Moore ar y drymiau – wedi bod gyda’i gilydd ers 1986.

Hyd yn hyn maen nhw wedi rhyddhau 11 albwm, gydag un arall – Futurology – ar y gweill.