Bydd deiseb sydd wedi ei llofnodi gan 1,800 o bobol sy’n cefnogi gwaith Mentrau Iaith Cymru yn cael ei chyflwyno i’r Cynulliad Cenedlaethol heddiw.

Y mudiad Dyfodol i’r Iaith sy’n cyflwyno’r ddeiseb, mewn ymateb i adroddiad ar waith y Mentrau a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd yr adroddiad y dylai’r cyfraniad sy’n cael ei wneud gan y Mentrau barhau ac ehangu.

Ond yn ôl y mentrau iaith, nid ydyn nhw’n cael eu hariannu’n deg nac yn ddigonol i weithredu i’w llawn botensial.

Ar hyn o bryd, mae’r 22 menter yng Nghymru yn derbyn £1.7 miliwn y flwyddyn gan y Llywodraeth ond maen nhw eisiau i hynny godi i £4.8 miliwn – i’w galluogi i weithredu’n fwy dwys, i ddatblygu cynlluniau strategol i gryfhau’r Gymraeg ac i ddatblygu eu staff.

‘Cefnogaeth gadarn’

“Mae hyn yn rhoi neges glir i Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r gefnogaeth sydd gan bobl ledled Cymru tuag at waith eu Mentrau Iaith lleol”, meddai Meirion Davies, llefarydd ar ran y Mentrau.

“Mae strategaeth iaith y Llywodraeth, Iaith Fyw: Iaith Byw, yn datgan bod y Llywodraeth am weld y Gymraeg yn ffynnu, a chynnydd yn nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg ac yn ei defnyddio.

“Byddai ymateb gadarn gan y Prif Weinidog i gais y Mentrau am fuddsoddiad teg yn eu gwaith yn gam pwysig y gall Llywodraeth Cymru a’r Prif Weinidog ei wneud er mwyn dangos eu cefnogaeth i’r Gymraeg.

“Os yw’r Gymraeg yn colli tir fel iaith ein teuluoedd, ein cymunedau a’n pobl ifanc fe fyddai hi’n anodd iawn, os nad yn amhosib, i’w hadennill yn y dyfodol.

“Mae pobl Cymru wedi ymateb yn gadarn i’n cais am eu cefnogaeth ac mae’n bryd nawr i’n Llywodraeth ni ymateb yn gadarnhaol i’r angen a’r galw am gefnogaeth i’r Mentrau Iaith ac i’r Gymraeg.”