Mae Prifysgol Caerdydd yn arwain ymchwil byd-eang i afiechyd Alzheimer.

Fe fydd y prosiect gwerth £6 miliwn yn canolbwyntio ar y ffactorau genetig a ffordd o fyw sy’n gallu arwain at y cyflwr.

Afiechyd Alzheimer yw’r ffurf mwyaf cyffredin o ddementia ac mae’n effeithio mwy nag 800,000 o bobol yn y DU – rhwng 50% a 70% o’r holl achosion o ddementia.

Mae’r cyflwr yn costio £23 biliwn i economi’r DU bob blwyddyn.

Gobaith Prifysgol Caerdydd yw gwneud yr ymchwil mwyaf cynhwysfawr am y cyflwr hyd yn hyn, a allai arwain at brawf syml er mwyn darganfod yr afiechyd.

Triniaethau

Fe allai’r ymchwil hefyd arwain at driniaethau sydd wedi’u haddasu yn ôl gofynion ac anghenion personol unigolion, gan nodi’r math o bobol sy’n wynebu’r risg mwyaf o ddioddef o’r cyflwr.

Yr Athro Julie Williams o Ganolfan Geneteg Niwroseiciatryddol a Genomeg Prifysgol Caerdydd sy’n arwain yr ymchwil.

Mae ganddi brofiad helaeth o ymchwilio i effaith geneteg ar gyflyrau’r meddwl, gan gynnwys afiechyd Alzheimer, dyslecsia a sgitsoffrenia.

Mae ei chyhoeddiadau academaidd yn cynnwys ymchwil ar enynnau sy’n achosi afiechyd Alzheimer.

Fis Rhagfyr y llynedd, cyhoeddodd hi bapur yn trafod effaith geneteg ar y cyflwr gan ddefnyddio dros 25,000 o achosion o’r cyflwr yn y DU.