Richard Harrington yn Y Gwyll
Mae’r Ŵyl Gyfryngau Celtaidd, neu’r neu’r Gool Media Keltek, yn cychwyn yng Nghernyw heno gyda Y Gwyll, Rownd a Rownd ac Alys ymysg rhaglenni teledu o Gymru a fydd yn cystadlu am wobrau.

Ar y cyfan, bydd 23 o enwebiadau o Gymru yn yr ŵyl – gyda S4C yn derbyn dwsin ohonyn nhw dros naw categori gwahanol.

Mae’r ŵyl, sy’n dathlu ieithoedd a diwylliant y gwledydd Celtaidd ar y sgrin, yn cael ei chynnal ym Mhorth Ia (St Ives) o heddiw tan 4 Ebrill, yn dilyn yr ŵyl lwyddiannus yn Abertawe’r llynedd.

Enwebiadau

Yn y categori Cyfres Ddrama, fe fydd y gyfres dditectif poblogaidd Y Gwyll/Hinterland, yn mynd benben hefo cyfres Alys i gystadlu am wobr.

Mae Rownd a Rownd yn y categori Pobl Ifanc a’r ddrama Tir yn y categori Drama Nodwedd a dau gynhyrchiad gan Cwmni Da yn cystadlu yn y categori Celfyddydau – portread o’r bardd Gerallt Lloyd Owen, Gerallt, yw’r naill a Pethe, Pethe: Lleisiau Ysbyty Dimbach yw’r llall.

Cyfres arall o stabl Cwmni Da, taith y cyflwynydd a’r bardd Ifor ap Glyn i’r Llefydd Sanctaidd sy’n cael ei lle yn y categori Cyfres Ffeithiol.

Ac fe fydd rhaglenni plant Cyw a Stwnsh yn y categori Plant.