Protest yn Neuadd Pantycelyn y llynedd
Mae myfyrwyr oedd yn bwriadu ymprydio am 48 awr fel rhan o ymgyrch yn erbyn cau Neuadd Pantycelyn wedi gohirio’r ympryd am ddiwrnod, er mwyn cyfarfod â Phrifysgol Aberystwyth.

Penderfynodd 37 o fyfyrwyr y gymuned Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth i ymprydio am nad yw  “swyddogion y Brifysgol wedi gwrando o gwbl ar eu pryderon” ynglŷn â chau’r neuadd breswyl i fyfyrwyr Cymraeg.

Ond yn dilyn cais arbennig gan y Brifysgol, bydd rhai o’r myfyrwyr yn cwrdd ag uwch swyddogion y Brifysgol fore Gwener i drafod datblygiadau diweddar yn yr ymgyrch, gan ohirio’r ympryd.

Os na fydd canlyniad cadarnhaol i’r cyfarfod, bydd myfyrwyr yn debygol o ymprydio o ddydd Gwener, 4 Ebrill ymlaen – a hynny dros ddiwrnod agored y Brifysgol i ddarpar fyfyrwyr sy’n digwydd ddydd Sadwrn.

‘Cam mawr ymlaen’

Dywedodd Mared Ifan, Llywydd UMCA:  “Mae hyn yn gam mawr ymlaen yn ein hymgyrch, sy’n dangos bod y Brifysgol yn teimlo’r pwysau. Rydym yn edrych ymlaen at drafod â’r Brifysgol fore dydd Gwener ac yn gobeithio am ganlyniad a fydd yn golygu y bydd Pantycelyn yn aros ar agor fel llety i fyfyrwyr Cymraeg.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Brifysgol: “Gan nad yw’r ympryd yn mynd yn ei flaen ni fydd y Brifysgol yn gwneud sylw pellach ar hyn o bryd.”