Un o hwdis cwmni Cowbois, Y Bala
Mae cwmni dillad Cowbois yn y Bala wedi dweud bod y diddordeb mewn crysau-T a hwdis ‘We Speak Welsh – Get Over It’ yn “anferth”.

Cafodd y crysau-T eu cynhyrchu yn dilyn ffrae am drafodaeth ar Radio Wales am y Gymraeg.

Wrth wahodd pobol i ffonio i mewn i drafod y Gymraeg, gofynnodd y cyflwynydd Oliver Hides, “A yw’r Gymraeg yn eich cynddeiriogi?”

Cafodd y cwestiwn ei holi yn dilyn ffrae am y Gymraeg yn siop Hobos yng Nghaerdydd, pan ddywedodd gweithiwr y siop ar wefan Facebook bod y Gymraeg yn ei wylltio, ar ôl clywed dau o’r cwsmeriaid yn siarad Cymraeg.

Wrth ymateb mewn ffordd ddychanol i’r ffrae, mae Cowbois yn Y Bala wedi cynhyrchu crysau-T gyda’r slogan “It’s Wales, We Speak Welsh, Get Over It” arnyn nhw.