Mot
Mae dyn o Lannerchymedd, Ynys Môn wedi hyfforddi ei gi i fynd i’r siop leol ar ei ran.

Mae Gwyn Evans wedi bod yn berchen ar Mot, sy’n frid Basset Hound, ers pedair blynedd ac ers hynny, mae o wedi bod yn hyfforddi ei gyfaill newydd i wneud pob math o driciau.

“Nes i gael Mot ar ôl ymddeol,” esbonia Gwyn Evans, 72. “Felly, gan fod y ddau ohonon ni yma yn y tŷ drwy’r dydd, roedd gen i amser i ddysgu gwahanol driciau iddo fo.”

Er iddo ddechrau gyda gorchmynion syml fel “eistedd i lawr”, “troi rownd” ac “aros”, buan iawn y sylweddolodd Gwyn Evans bod Mot yn fwy clyfar na’r ci arferol.

Meddai Gwyn Evans: “Nath o ddechrau achos bo fi’n cerdded i’r siop i gael y papur newydd  bob bora ac roedd Mot yn dod hefo fi.

“Ond un diwrnod, o’n i wedi brifo fy nghefn a do’n i methu symud o fy ngwely, dyma’r wraig ‘cw yn gadael Mot allan i’r ardd a nath o neidio dros wal.

“Deg munud wedyn, roedd o’n ôl hefo copi o’r papur rhwng ei ddannedd.”

‘Dipyn o celebrity!’

Dyna pryd sylweddolodd Gwyn y byddai’n gallu hyfforddi ei gi i nôl rhagor o bethau o’r siop.

“Mae’r wraig wedi gwneud bag  i roi arno fo a da ni’n rhoi rhestr siopa a phres yn y bag. Mae o’n handi ofnadwy pan da ni’n gwylio’r rygbi ac yn rhedeg allan o gwrw, neu pan da ni’n coginio swper a sylweddoli bod gennym ni ddim un cynhwysyn.

“Ond, wrth gwrs, oherwydd bod o’n gi sy’n is at y llawr, tydi o methu cario lot o bethau ar unwaith.”

Meddai perchennog y siop leol, Lucy Kedwick: “Pan ddaeth Mot yma’r tro cynta’ a dwyn papur newydd, ro’n i’n meddwl bod o’n wyllt. Ond rŵan, mae pawb yn y pentref wrth eu boddau yn gweld Mot yn dod lawr i’r siop i wneud y neges – mae o wedi troi yn dipyn o celebrity!”

Stori: Ciron Gruffudd