Mae bwrdd gweithredol Cyngor Sir Gâr wedi rhoi eu cefnogaeth i adroddiad sy’n cynnig 70 o argymhellion i gryfhau’r Gymraeg yn y sir.
Cafodd yr adroddiad ei ffurfio gan weithgor trawsbleidiol a fu’n ystyried sefyllfa’r iaith yn dilyn canlyniadau Cyfrifiad 2011, a ddangosodd bod nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir wedi gostwng 6% er 2001.
Bu’r Gweithgor yn derbyn tystiolaeth a sylwadau gan drawstoriad eang o bobol a sefydliadau, cyn cytuno ar 73 o argymhellion sy’n cwmpasu addysg, cynllunio, busnes, pobl ifanc ac ymgysylltu â’r gymuned.
Bydd yr adroddiad, sy’n ’galw am “newidiadau radical” i geisio rhwystro’r Iaith Gymraeg rhag diflannu <http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/141773-sir-gar-y-gymraeg-wedi-cyrraedd-croesffordd>, yn mynd gerbron cyfarfod o’r Cyngor Llawn i’w fabwysiadu cyn cael ei gyhoeddi.
‘Gwahaniaeth gwirioneddol’
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Kevin Madge: “Mawr obeithiaf y bydd yr adroddiad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac yn ein galluogi i ddiogelu’r Gymraeg fel iaith fyw sy’n ffurfio rhan bwysig o fywyd bob dydd yn ein cymunedau.
“Mae’n rhaid i ni feithrin cefnogaeth y gymuned gyfan ar y daith, ac mewn llawer o ffyrdd y mae dyfodol yr iaith Gymraeg yn dibynnu mwy ar gefnogaeth y di-Gymraeg nag y mae ar y rheini ohonom sydd eisoes yn siarad yr iaith.
“Yr her yn awr fydd gweithio gyda rhieni, llywodraethwyr ysgolion, cyflogwyr lleol a sefydliadau cymunedol i sicrhau eu cefnogaeth i’r cynigion uchelgeisiol a chyffrous a amlinellwyd yn yr adroddiad.
“Byddaf yn argymell i’r Cyngor ein bod yn cymeradwyo’r adroddiad hwn a’n bod yn gwahodd pobol leol i gyflwyno eu barn a’u syniadau am sut y gallwn gydweithio o hyn ymlaen.”
‘Angen datganoli mwy o swyddi o Gaerdydd’
Ychwanegodd y Cynghorydd Mair Stephens, Aelod o’r Bwrdd Gweithredol sy’n gyfrifol am yr iaith Gymraeg fod angen datganoli mwy o swyddi o Gaerdydd i gymunedau fel Sir Gâr.
“Un o’n heriau mwyaf fydd parhau i greu swyddi o ansawdd da i bobol ifanc yn y sir gan fod llawer ohonyn nhw’n symud i ffwrdd i astudio ond nid ydyn nhw’n dychwelyd.
“Dyna pam bod cyhoeddiad S4C yr wythnos diwethaf o ran adleoli eu pencadlys i Gaerfyrddin, mor hanfodol i ni yma yn Sir Gâr.
“Gobeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth bellach ynghylch datganoli mwy o swyddi o Gaerdydd i gymunedau megis Sir Gâr.”
‘Atgyfnerthu’r Gymraeg’
Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones eu bod yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’r cyngor: “Roeddwn yn falch iawn o glywed am benderfyniad Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin ac am y gefnogaeth drawsbleidiol yma i fesurau fydd yn cryfhau sefyllfa’r Gymraeg yn y sir.
“Yn y trafodaethau ynglŷn ag adleoli pencadlys S4C, un o’r pynciau dan sylw oedd y posibilrwydd o atgyfnerthu’r Gymraeg yn yr ardal.
“Rydym yn edrych ymlaen at weld y penderfyniad yma yn cael ei gadarnhau maes o law, ac at gydweithio gyda’r Cyngor fel un o’n partneriaid craidd yn Sir Gaerfyrddin i wireddu potensial pellgyrhaeddol ein penderfyniad i symud i Sir Gar.”
‘Angen sylw i dri maes arall’
Mae Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn y rhanbarth, yn croesawu pleidlais y bwrdd gweithredol ond yn dweud bod angen rhoi sylw i dri maes arall yn yr adroddiad:
“Rydyn ni’n falch bod yr argymhellion hyn wedi eu derbyn ac yn disgwyl nawr y bydd amserlen a chynllun gweithredu yn barod erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol.
“Bydd llygaid Cymru gyfan ar Sir Gaerfyrddin bryd hynny ac rydyn ni’n bwriadu trefnu parti mawr ar y maes i ddathlu gweledigaeth a blaengaredd Sir Gaerfyrddin, fel esiampl i weddill Cymru.
“Erbyn hynny rydyn ni hefyd yn gobeithio bydd y Gweithgor wedi cael amser i fynd i’r afael â’r tri gwendid rydyn ni wedi eu hadnabod yn yr adroddiad. Bydd eu gweithredu nhw yn sicrhau fod gwneud y mwyaf o waith da’r Gweithgor, a bod dilyniant cynaliadwy.”
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y gweithgor i roi sylw pellach i:
(a) Wella sgiliau gweithlu’r cyngor
(b) Ysgolion i adfer yr iaith mewn cymunedau ehangach
(c) Effaith datblygu tai newydd ar gymunedau