Mae adroddiad gan banel o aseswyr Llywodraeth Cymru ar waith ymgeiswyr am gontract cyfieithu i’r sector cyhoeddus yn datgan siom gyda safonau iaith llawer o’r gwaith.

Yn ystod y mis diwethaf, fe ddaeth i’r amlwg i’r Llywodraeth fethu â bwrw ymlaen i ddyfarnu contractau oherwydd bod cymaint wedi methu’r profion.

Mewn adroddiad at yr ymgeiswyr, sydd bellach wedi cael cyfle i ailsefyll y profion, dywed y panel asesu eu bod wedi disgwyl y byddai’r rhan fwyaf o’r cyfieithwyr yn brofiadol yn y math o dasg a gafodd ei rhoi iddyn nhw.

‘Diffygiol’

“Siom fawr i’r panel, felly, oedd gweld bod nifer sylweddol o’r cyfieithiadau yn ddiffygiol wrth gyfleu’r ystyr a/neu wrth geisio cyfathrebu’r neges i’r gynulleidfa mewn ffordd addas a naturiol,” medd yr adroddiad. “Roedd hi hefyd yn siom gweld cynifer o wallau iaith, a rhai o’r rheini yn wallau go sylfaenol.”

Roedd diffygion gwaith ymgeiswyr y tendr yn cynnwys, ymhlith pethau eraill:

  • methu â dehongli ystyr y gwreiddiol a’i gyfleu’n gywir
  • camsillafu
  • camdreiglo
  • dryswch gydag amserau’r ferf.

Roedd y Llywodraeth wedi cyfyngu’r tendro i rai a oedd yn ‘aelodau cyflawn’ o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (sef rhai sy’n dal cymwysterau uchaf y gymdeithas honno), neu o’r corff proffesiynol Prydeinig i gyfieithwyr, yr ITI.

Ar eu gwefan, mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru’n disgrifio safon eu haelodaeth gyflawn fel “aelodaeth gwbl broffesiynol lle nad oes ar yr ymgeisydd angen unrhyw oruchwyliaeth”, a dywed bod disgwyl i’w haelodau cyflawn “fedru cyfieithu’n rhugl ac yn gywir … mewn sawl arddull a chywair yn ôl yr angen.”

Cynghorion

Mae adroddiad panel y llywodraeth yn diweddu gyda rhestr o gynghorion i’r ymgeiswyr ar gyfer llwyddo yn yr ail set o brofion. Mae’r cynghorion hyn yn cynnwys darllen yn ofalus drwy eu gwaith a chael “ail bâr o lygaid” i edrych arno.

Gan mai’r ymgeiswyr hyn oedd yr unig rai â’r hawl i sefyll yr ail set o brofion, mae dyfodol y contract yn dibynnu ar iddyn nhw gael gwell hwyl arni’r ail dro.