E-coli
Methiant i reoli haint mewn uned i fabanod newydd-anedig oedd y rheswm tebygol dros ledaeniad bacteria e-coli a arweiniodd at farwolaeth dau fabi bach yn Abertawe.

Dyna medd adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi heddiw gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Bu farw dau fabi oedd wedi cael eu geni cyn pryd ar ôl cael eu heintio â math ESBL o E.coli tra yn Ysbyty Singleton Abertawe yn 2011.

Cyn rhoi genedigaeth roedd mam un o’r babanod wedi ei heintio â bacteria E.coli a datblygodd un o’u hefeilliaid yr un bacteria. Roedd y babi yna (A1) wedi ei osod yn agos at fabi arall (B1) oedd hefyd wedi ei eni cyn pryd a dywed yr adroddiad fod hyn yn “ffactor bwysig” dros drosglwyddiad y bacteria o un i’r llall.

Argymhellion

Dywed yr adroddiad fod angen “ailystyried yr arfer o roi dau fabi y mae  angen gofal dwys arnynt wrth ymyl ei gilydd yn enwedig pan nad oes digon o le rhwng y cotiau a phan sylweddolir wedyn bod un wedi’i gytrefu ag organeb Rhybudd.”

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi gwneud 13 o argymhellion, gan gynnwys y dylai’r Uned Babanod Newydd-anedig, gyda chymorth microbiolegwyr meddygol, ddyfeisio system rhybudd cynnar i rybuddio staff yr Uned Babanod Newydd-anedig am facteria sy’n debygol o gael ei drosglwyddo.