Mae angen cryfhau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ei waith o gadw llygad ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mewn adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn galw am adolygiad llawn o’r Arolygiaeth, sy’n gyfrifol am arolygu ysbytai, meddygfeydd, deintyddion a darparwyr gofal iechyd annibynnol yng Nghymru.

Fe ddylai fod yn gallu gweld unrhyw beryglon systematig yn y Gwasanaeth ond, yn ôl y Pwyllgor, fyddai o ddim yn gallu gwneud hynny, petai’n gorfod gwneud y gwaith ar ei ben ei hun.

Fe fydd yr adroddiad yn ychwanegu at y dadlau tros safonau iechyd yng Nghymru wrth i’r Aelod Seneddol Llafu, Ann Clwyd, barhau i feirniadu Llywodraeth y Cynulliad, a mynnu ei bod wedi rhoi manylion degau o gwynion iddyn nhw.

Beirniadaeth y Pwyllgor

Yn ôl y Pwyllgor dyw rôl a diben yr Arolygiaeth ddim yn ddigon clir ac mae’r cyfrifoldebau’n rhy ddryslyd.

Mae hynny’n eu hatal rhag dangos eu bod yn annibynnol ar y Llywodraeth, meddai’r Pwyllgor, cyn mynd ati i restru rhagor o feirniadaethau penodol.

  • Mae angen i’r Arolygiaeth wneud gwell defnydd o wybodaeth a chydweithio’n well gyda Chynghorau Iechyd Cymru, sy’n cynrychioli buddiannau cleifion.
  • Mae’n cymryd gormod o amser i gyhoeddi adroddiadau arolygu, a dydyn nhw ddim yn cael eu trosglwyddo’n iawn i’r cyhoedd.
  • Mae angen iddyn nhw ddangos sut y maen nhw’n gallu asesu’r gwasanaeth yn annibynnol ac addasu i drefniadau newydd.
  • Dydyn nhw ddim yn gallu cynnal archwiliadau o ysbytai a chyrff eraill yn ddigon aml.

Dechreuodd y Pwyllgor ei ymchwiliad yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus i Ymddiriedolaeth Iechyd Canolbarth Swydd Stafford o dan gadeiryddiaeth Robert Francis QC.

Cynnal adolygiad brys

“Yr hyn wnaethon ni ei ganfod yw sefydliad sy’n cael trafferth yn diffinio’i ddiben ei hun a cheisio rheoli cyfrifoldebau a ddaw o jig-so cymhleth o ddeddfwriaeth”, meddai David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

“Credwn fod hyn yn cael effaith ar ymdrechion yr Arolygiaeth i fod yn rheoleiddiwr awdurdodol ar ysbytai, meddygfeydd, deintyddion a darparwyr gofal iechyd preifat yng Nghymru.

“Rydym, felly, yn argymell bod adolygiad sylfaenol o’r Arolygiaeth yn cael ei gynnal, gyda’r bwriad o gryfhau’r gyfundrefn arolygu a rheoleiddio yng Nghymru.

“Dylid gwneud hyn ar frys, a gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn ein casgliadau.”