Llun: Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae’r Samariaid wedi croesawu cyhoeddi adroddiad am hunanladdiad ymhlith plant a phobol ifanc.

Daw’r adroddiad yn sgil arolwg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n canolbwyntio ar farwolaethau plant a phobol ifanc rhwng 2006 a 2012.

Maen nhw’n gwneud nifer o argymhellion gan gynnwys galw am i fwy gael ei wneud i ofalu fod canllawiau NICE yn cael eu gweithredu i reoli hunan-niweidio; datblygu cofrestr diogelu plant Cymru gyfan a fyddai’n hygyrch i bob gwasanaeth perthnasol; lleihau’r cyfleoedd i bobl ifanc yfed alcohol; gofalu fod unrhyw raglenni ac ymyriadau ynglŷn ag atal hunanladdiad yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf; ac adolygu cynnydd gydag atal hunanladdiad bob tair blynedd.

Fe amlygodd yr adroddiad fod hunanladdiad, er yn anghyffredin, yn un o brif achosion marwolaeth ym mlynyddoedd yr arddegau, gydag oddeutu un farwolaeth ym mhob pedair o achosion allanol ymysg plant 12-17 oed yn debygol o fod yn hunanladdiad.

Dywedodd Dr Ann John, ymgynghorydd mewn iechyd cyhoeddus i Iechyd Cyhoeddus Cymru ac athro cysylltiol ym Mhrifysgol Abertawe, a oedd yn arweinydd clinigol yr adolygiad:

“Mae’r adolygiad hwn yn ddarn allweddol o waith i’n helpu ni i gyd i ddeall y ffactorau sydd wedi cyfrannu tuag at y marwolaethau hyn, i nodi cyfleoedd i’w hatal a gwneud argymhellion i leihau’r risg o hunanladdiad i blant a phobl ifanc yng Nghymru.
“Nid yw hunanladdiad yn anochel ac mae gennym ni i gyd ran i’w wneud i atal marwolaethau pellach.’’

‘Gwastraff bywyd’

Dywed y Samariaid eu bod nhw’n cydweithio gyda theuluoedd, ffrindiau ac ysgolion yn dilyn hunanladdiad, a bod yr argymhelliad o gydweithio i’w groesawu.

Dywedodd Prif Weithredwr y Samariaid, Sarah Stone: “Mae pob hunanladdiad yn wastraff bywyd ofnadwy, a dyna pam ein bod ni’n croesawu’r arolwg pwysig hwn, yn benodol yr argymhellion i gryfhau’r cyfathrebu rhwng y Llywodraeth, pobol broffesiynol a’r trydydd sector sy’n cydweithio i atal hunanladdiadau.”

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at rôl ysgolion, colegau a gweithleoedd wrth ymrwymo plant a phobol ifanc sy’n wynebu’r risg o gyflawni hunanladdiad.

Dywed y Samariaid fod eu rhaglen DEAL (Datblygu Ymwybyddiaeth ac Addysg Emosiynol) wedi’i hanelu at “gynyddu dealltwriaeth o iechyd emosiynol a gwella strategaethau ymdopi effeithiol ar gyfer plant 14-16 oed”.

Maen nhw’n tynnu sylw at y stigma sy’n gysylltiedig â hunanladdiad, gan ddweud y gall y stigma hwnnw “fod yn rhwystr i geisio cymorth”.

Dulliau “agored a phositif”

Ychwanegodd Sarah Stone fod rhaglen y Samariaid yn “caniatáu i bynciau megis iselder a hunan-niweidio gael eu trafod mewn ffordd agored a phositif”.

Mae gan y Samariaid wasanaeth Cam wrth Gam sy’n galluogi ysgolion i “ymateb a gwella’n gyflym yn dilyn hunanladdiad neu gais i gyflawni hunanladdiad”.

Mae’r adroddiad yn rhoi sylw arbennig i’r rhan y mae gwefannau cymdeithasol yn ei chwarae mewn nifer o hunanladdiadau.

Dywed y Samariaid eu bod nhw’n cydweithio gyda Phrifysgol Bryste i ymchwilio i rôl y we mewn hunanladdiadau.

Ychwanegodd Sarah Stone: “Gwyddom fod gan y rhyngrwyd ddylanwad cryf ar bobol ifanc ac yn ddiweddar, rydym wedi lansio ymchwil gyda Phrifysgol Bryste sy’n torri tir newydd ynghylch rôl y rhyngrwyd ymhlith y rhai sy’n meddwl am gyflawni hunanladdiad.”

Mae’r Samariaid wedi datblygu partneriaeth gyda gwefan Facebook i gyfeirio plant a phobol ifanc at wasanaeth sy’n gallu eu cefnogi os ydyn nhw’n ystyried cyflawni hunanladdiad.

“Yng Nghymru, rydym yn rhedeg rhaglen ymgysylltu “Traed ar y Stryd” mewn trefi a dinasoedd ledled y wlad gan ei bod yn bwysig i’r Samariaid fod gwirfoddolwyr yn weledol yng nghalon ein cymunedau, yn gyson, i unrhyw un sydd angen siarad â rhywun.”