Mae llyfrgelloedd ac ysgolion cynradd Cymru wedi lansio ymgyrch a fydd yn rhoi cerdyn llyfrgell am ddim i holl blant y wlad, mewn ymdrech i godi safonau llythrennedd.

Bydd y cerdyn yn caniatáu plant i allu benthyg llyfrau, gwneud defnydd o ddosbarthiadau ychwanegol a chael defnyddio’r cyfrifiadur mewn llyfrgelloedd.

Plant wyth neu naw oed ym Mlaenau Gwent, Sir Y Fflint, Gwynedd, Merthyr Tudful, Powys ac Abertawe fydd y cyntaf i dderbyn y cerdyn am ddim.

Wrth lansio’r ymgyrch yn Llyfrgell Tredegar heddiw, bydd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths, yn dweud: “Mae’r cysylltiad rhwng defnyddio’r llyfrgell a safonau llythrennedd wedi ei gofnodi – fe wnaeth dros 42,000 o blant yng Nghymru gymryd rhan yn Her Ddarllen yr Haf y llynedd.

“Fe wnaeth y plant a fu’n rhan o’r digwyddiad wella eu safon darllen ac rydym yn gobeithio adeiladu ar hyn trwy roi cyfle i bob plentyn ddefnyddio cerdyn llyfrgell.”