Mike Hedges
Mae Mike Hedges, Aelod Cynulliad Llafur dros Ddwyrain Abertawe, wedi  galw am bolisïau cryfach tros yr iaith Gymraeg, wrth iddo rybuddio am ganlyniadau posib Cyfrifiad 2051.

Yn dilyn canlyniadau “argyfyngus” 2011, dywedodd yr AC mai dim ond 50% o bobol fydd yn siarad Cymraeg mewn cadarnleoedd fel Gwynedd ymhen 30 mlynedd, os na fydd newid ym mholisïau’r Llywodraeth.

“Dydw i ddim yn anghytuno hefo polisïau fy mhlaid fy hun, ond mi ydw i eisiau gweld pethau yn datblygu ymhellach,” meddai.

“Fe wnes i edrych ar ganlyniadau’r Cyfrifiad yn 2011, ond wnes i ddim llawn sylweddoli pa mor ddrwg oedd pethau. Hyd yn oed yng Ngwynedd, mi fydd hanner y boblogaeth yn siarad Saesneg yn 2051 os ydy pethau’n parhau fel y maen nhw.

“Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, rwy’n gobeithio cyhoeddi pamffled o’r enw Cymru2051 a fydd yn rhagweld sut fydd pethau os ydan ni’n cario mlaen fel hyn, a beth allwn ni ei wneud i newid y sefyllfa.

“Edrych ar yr Iaith Gymraeg sydd rhaid i ni ei wneud cyn popeth arall.”

Polisïau

Yn ôl Mike Hedges, cynyddu nifer y plant sy’n siarad Cymraeg mewn ysgolion fyddai’n trawsnewid sefyllfa’r iaith:

“Rwy’n gwybod pa mor anodd ydy hi i geisio dysgu Cymraeg fel oedolyn, felly mae’n rhaid hybu’r Gymraeg o oed cynnar”, meddai.

“Wedyn, gwneud yn siŵr nad ydy’r plant yn colli’r gallu i siarad yr iaith drwy ddarparu cyfleusterau drwy gyfrwng y Gymraeg i bobol ifanc.

“I fynd gam ymhellach na hynny, mae’n rhaid gwarchod yr ardaloedd Cymreig drwy beidio gadael i bobol adeiladu datblygiadau tai a fyddai’n golygu fod llai o bobol yn siarad yr iaith yno.”

Yr Argymhellion:

Dyma’r argymhellion y byddai Mike Hedges yn dymuno eu gweld yn troi yn bolisïau:

  1. Gwarantu lle ar raglen Dechrau’n Deg y Llywodraeth i bob plentyn os yw eu rheini yn gofyn amdano.
  2. Hyrwyddo addysg drwy gyfrwng y Gymraeg i rieni plant tair oed.
  3. Darparu cyfleusterau cyfrwng Gymraeg i bobol ifanc, a fyddai’n hybu’r defnydd o Gymraeg y tu allan i’r ysgol.
  4. Gwarchod yr iaith yng nghanllawiau TAN 20.