Paul Silk yn cyflwyno ail ran adroddiad Comisiwn Silk i David Jones
Bydd cynrychiolwyr o 100 o wahanol fudiadau a sefydliadau yn cyfarfod yng Nghaerdydd heddiw i drafod argymhellion ail adroddiad Silk.

Cyhoeddwyd adroddiad cyntaf Comisiwn Silk ar ddatganoli pwerau cyllidol i Gymru yn 2012. Roedd yr adroddiad hwnnw’n gwneud 33 o argymhellion ynglŷn â phwerau trethu a benthyca i’r Cynulliad Cenedlaethol.

Yna, ddechrau’r mis, fe wnaeth y comisiwn gyhoeddi 61 o argymhellion pellach a fyddai’n “arwain at setliad datganoli clir, cadarn ei seiliau ar gyfer Cymru”.

Yn yr adroddiad, roedd y comisiwn yn edrych ar sut y dylai pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael eu hadolygu er mwyn gwasanaethu pobl Cymru yn well.

Undeb sy’n Newid

Mae’r gynhadledd heddiw yn cael ei threfnu gan brosiect Undeb sy’n Newid – prosiect sy’n cael ei reoli ar y cyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, y Sefydliad Materion Cymreig, Cymru Yfory a Materion Cyhoeddus Cymru.

Gyda llawer o sefydliadau wedi cefnogi’r galw am ddatganoli rhagor o bwerau i Gymru, bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar y gwahanol feysydd polisi sy’n cael eu trafod yn yr adroddiad. Mae’r rhain yn cynnwys plismona, darlledu, ynni a thrafnidiaeth.

Ymysg y siaradwyr heddiw, fydd  cadeirydd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, Paul Silk; Alun Michael, Comisiynydd Heddlu De Cymru; yr Athro Ian Hargreaves o Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd; Gareth Clubb o Gyfeillion y Ddaear Cymru; Lee Waters o’r Sefydliad Materion Cymreig;  a’r Athrawon Roger Scully a Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd.

‘Trafod y casgliadau’

Wrth siarad cyn y gynhadledd, dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones, cadeirydd prosiect Undeb sy’n Newid a Chyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd:

“Mae bron i ddeng mlynedd ers i argymhellion y Comisiwn Richard gael eu cyhoeddi ac mae’r  gymdeithas sifil yng Nghymru bellach yn cael y cyfle i drafod argymhellion y cynnig diweddaraf fyddai’n rhoi sail sefydlog a chynaliadwy i ddatganoli yng Nghymru.

“Mae llawer o’r rhai fydd yn mynychu’r  gynhadledd heddiw eisoes wedi rhoi eu tystiolaeth eu hunain i Gomisiwn Silk, a dyma fydd eu cyfle cyntaf i drafod casgliadau’r Comisiwn a’i argymhellion.”