Mae un o ymgeiswyr Plaid Cymru yn galw am gydlynu gwell rhwng y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.

Mewn llythyr at Weinidog Iechyd Cymru Mark Drakeford, mae’r Dai Lloyd yn dweud fod y gwasanaeth wedi’i ad-drefnu naw gwaith mewn 30 o flynyddoedd – ond methodd pob ymgais â sicrhau cydweithrediad gwell.

Yn ôl Dr Dai Lloyd, sy’n feddyg teulu yn Abertawe, dylid sicrhau integreiddio’r gwasanaethau iechyd a chymdeithasol drwy gydweithredu agosach rhwng meddygon, nyrsys, gweithwyr cymdeithasol ac eraill ar lawr gwlad – nid drwy ad-drefnu’r gwasanaeth iechyd unwaith yn rhagor.

“Mae meddygon lleol ac eraill mewn gofal sylfaenol yn delio â 90 y cant o’r cleifion, er iddyn nhw ddefnyddio llai nag wyth y cant o wariant iechyd Cymru,” meddai Dr Lloyd, darpar ymgeisydd Cynulliad dros etholaeth Gorllewin Abertawe.

“Yn amlwg dan straen ar hyn o bryd, mae angen ail-gydbwyso’r gyllideb a hyfforddiant proffesiynol tuag at ofal sylfaenol a chymunedol yng Nghymru, wrth ddelio gyda rhagor o gleifion gan feddygon teulu.

“Mae hefyd eisiau mynd i’r afael â’r oedi gormodol am apwyntiadau gyda meddygon, gan liniaru’r pwysau ar driniaeth tu allan i oriau gwaith ac ar adrannau damweiniau ac achosion brys.”

Ynghyd â hyn, mae rhaid torri gweinyddiaeth feichus, meddai, Dr Lloyd yn ei femorandwm.

“Yr hyn sydd eisiau yw mwy o weithwyr ar y llawr i helpu’r claf – mwy o feddygon, nyrsus, ffisiotherapyddion a Therapyddion Galwedigaethol – a llai o weinyddwyr.

“Mae Plaid Cymru’n anelu at sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn parhau’n wasanaeth cyhoeddus – a rhyddhau arian i ehangu’n gallu ar y rheng flaen fydd yr allwedd wrth i ni wynebu heriau’r blynyddoedd o’n blaenau.”