Samira yn Fflorida
Mae actores o Gastell-Nedd, Samira Mohamed Ali, wedi bod yn cynrychioli Prydain yn haul braf Fflorida wrth i’r dalaith dros y dŵr ddathlu rhai o lwyddiannau diwydiant a diwylliant Prydeinig.

Cynhaliwyd rhaglen o ddigwyddiadau yn ystod BritWeek Miami rhwng 6 a 12 Mawrth ar hyd a lled Miami a Miami Beach, gydag Ali’n llysgennad ar y dathliadau.

Dechreuodd BritWeek yng Nghaliffornia yn 2007, fel rhan o gynllun yn cynnwys Masnach a Buddsoddi’r DU, Swyddfa Prif Gonswl Prydain ac eraill yn y byd diwydiannol i geisio hybu’r berthynas rhwng Prydain a’r UDA.

Dod â Bollywood i Gymru?

Ac fe ddywedodd yr actores o Gymru, sydd hefyd yn llysgennad i FilmInWales ac yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i geisio denu cyd-gynyrchiadau a buddsoddiad i Gymru o Bollywood a’r UDA, ei fod yn gyfle da i ddangos beth oedd gan Brydain i’w gynnig.

“Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i fusnesau ym Mhrydain arddangos eu cynnyrch a’u gwasanaethau yn Ne Fflorida, ac adeiladu ar y sylfaen gadarn a osodwyd gan Lywodraethau DU a’r UDA,” meddai Samira Mohamed Ali.

“Roeddwn y falch iawn o fod yn  brif lysgennad a chyd-gyflwyno’r digwyddiadau eleni.  Gwelwyd arloesedd a diwydiant Ynysoedd Prydain ar ei orau.”

Yn ddiweddar, penodwyd Ali i chwarae’r brif ran mewn ffilm fawr yn yr India a diwedd 2014, ac fe fydd hi hefyd yn serennu yn un o brif rannau ffilm newydd ‘Dr Who’.

Mae eisoes wedi derbyn clod am ei pherfformiad clodwiw yn y ffilm iasoer Molly Crows, a enillodd wobr ‘Ffilm Arswyd Orau’ mewn gŵyl ffilmiau ym Moscow yn ddiweddar.