Fe allai’r ddarllenwraig newyddion, Eirwen Davies, fod wedi dysgu gwersi i rai o ddarlledwyr heddiw, meddai un o’i chyn benaethiaid ar ôl clywed am ei marwolaeth.

Hi oedd y fenyw gynta’ i ddarllen y newyddion ar sianeli ITV ac, am flynyddoedd, hi oedd llais y newyddion Cymraeg ar sianeli TWW a HTV.

Roedd hynny yn nyddiau’r rhaglen newyddion arloesol, Y Dydd.

‘Trylwyredd’

“Roedd hi’n gwbl, gwbl broffesiynol,” meddai Gwilym Owen, a fu’n bennaeth Newyddion yn HTV. “Mi allech chi roi sgript i Eirwen a’i gael yn ôl yn gwbl gywir a deallus.

“Ei chryfder mawr oedd ei thrylwyredd ac mi fyddai’n talu i rai o ddarlledwyr heddiw edrych ar hen dapiau ohoni.”

Roedd hi wedi dechrau darlledu’r newyddion ar droad yr 1960au ac roedd hefyd yn ymchwilio i raglenni hamdden a chwis ar ran y sianel.

Adroddwraig ac actors oedd hi i ddechrua ond fe dorrodd hi lwybr i ddarlledwyr benywaidd eraill, gan gynnwys Elinor Jones a Beti George.