Llangrannog - wedi newid agweddau at yr iaith
Urdd Gobaith Cymru sydd wedi gwneud y “cyfraniad mwyaf un wrth achub yr iaith Gymraeg dros y 90 mlynedd ddiwethaf”.

Dyma ddywedodd Prys Edwards, Llywydd Anrhydeddus yr Urdd, wrth iddo gael ei holi gan Hywel Gwynfryn mewn cyfweliad teledu.

Ychwanegodd Prys Edwards, sy’n un o feibion sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru, Syr Ifan ab Owen Edwards, ei fod yn credu fod gwersyll Llangrannog wedi chwarae rhan bwysig iawn wrth hybu’r  Gymraeg.

“Dyma’r lle y newidiodd agwedd pobol at yr iaith. Fe gafodd ei newid o fod yn iaith y capel ac iaith yr eisteddfod i fod yn iaith hwyl, dawnsio a phopeth fel ‘na”, meddai.

“Mae wedi newid y Gymraeg, yn fy nhyb i. Dyma’r mudiad sydd wedi achub yr iaith Gymraeg heb os nac oni bai.”

Fe fydd rhaglen Hywel Ddoe a Heddiw yn cael ei ddarlledu ar S4C nos Sadwrn.