Mae llefarydd ar ran Cyngor Wrecsam wedi cadarnhau wrth Golwg360 heno fod Bwrdd Gweithredol y Cyngor wedi penderfynu “parhau â chais am statws dinas”.

Roedd y Bwrdd Gweithredol wedi cyfarfod prynhawn yma i benderfynu a fydden nhw’n bwrw ymlaen â’r cynnig.

Daw’r penderfyniad er bod mwyafrif y 1,500 o drigolion y dref a holwyd gan y cyngor wedi dweud nad oedden nhw eisiau statws dinas.

Fe fydd un dref ym Mhrydain yn cael ei gwneud yn ddinas er mwyn cofnodi jiwbilî diemwnt y Frenhines y flwyddyn nesaf.

Mae’r cyngor yn amcangyfrif y bydd y cais yn yn costio tua £20,000.

Mae Ysgrifennydd Cymru’r wrthblaid, Peter Hain, ac Aelod Seneddol Wrecsam, Ian Lucas, wedi cefnogi’r cynllun.

Ond dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru yn Ne Clwyd, Mabon ap Gwynfor, wrth Golwg360 “nad oes tystiolaeth” y byddai rhoi statws dinas i Wrecsam yn “gwella safon byw pobl Wrecsam” nac “o unrhyw fudd economaidd i’r dref”.

Mae gan Gymru bum dinas ar hyn o bryd – Tŷ Ddewi, Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Bangor.