Mae tri o bobl wedi eu harestio yn dilyn lladrad honedig y tu allan i fanc ym Mae Colwyn heddiw.

Mae’n debyg fod rhywun wedi cipio arian oddi wrth ddyn ar stepen drws banc Nat West ar Ffordd Abergele.

Cafodd yr heddlu wybod am y lladrad tua 10.45am.

Mae dyn 36 blwydd oed, dyn 41 blwydd oed a dynes 35 blwydd oed wedi’u harestio ac mae ymchwiliadau’r heddlu yn parhau.

Cafodd un o’r dynion ei arestio ar Ffordd Egerton, a’r llall yn Llandrillo-yn-Rhos. Arestiwyd y ddynes yn ddiweddarach ar yr A55 ger Carwys.

Fe ddylai unrhyw un a welodd y digwyddiad neu oedd yn yr ardal ar y pryd gysylltu â heddlu Llanelwy ar 101 neu alw Taclo’r Tacle’n ddienw ar 0800 555 111.