Enid Jones tu allan i'w chartref yn Aberystwyth
Mi fydd gwrandawiad yn cael ei gynnal heddiw i benderfynu os dylai cartref gwraig o Aberystwyth gael ei ddymchwel er mwyn gwneud lle ar gyfer siopau newydd.

Mae Enid Jones, 58, wedi gwrthod symud o’i thŷ ar Heol  Glyndŵr ers dros ddwy flynedd, gan ddweud nad yw’r cyngor nâ’r datblygwyr wedi gwneud llawer o ymdrech i gysylltu â hi.

Ym mis Chwefror y llynedd, fe roddodd Cabinet Cyngor Ceredigion sêl bendith i’r datblygiad yn Dan Dre, sy’n cynnwys siopau Tesco a Marks & Spencer, ac mae swyddogion y cyngor wedi cael eu hawdurdodi i arwyddo cytundebau gyda’r datblygwyr Chelverton Deeley Freed.

Mae bwriad i ddymchwel 12 o dai ar Ffordd Glyndŵr, ond mae Enid Jones yn dadlau fod ei thŷ hi’n ddelfrydol ar gyfer ei hanghenion, gan ei bod yn dioddef o glefyd diabetes:

“Sai’ di gwerthu’r tŷ a sain mynd i. Fi bia fe,” meddai .

Gorchymyn

Roedd Cyngor Ceredigion wedi rhoi gorchymyn prynu gorfodol ar gartref Enid Jones ym mis Mai’r llynedd gan ddweud y bydd y datblygiad yng nghanol tref Aberystwyth yn creu tua 280 o swyddi amser llawn.

Dywed y Cyngor hefyd y bydd y datblygiad yn cynnig rhagor o lefydd parcio – a’r rheiny’n rhad ac am ddim am 3 awr – ac yn cyfrannu rhwng £1.6 miliwn a £3.5 miliwn at economi’r ardal.

Bydd archwilydd cynllunio yn clywed tystiolaeth yn y gwrandawiad heddiw ond Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.