Y difrod ar safle gorsaf niwclear Fukushima
Mae aelodau mudiad gwrth-niwclear yn cynnal protest ger Pont Menai bore ma i nodi tair blynedd union ers trychineb gorsaf niwclear Fukushima Daiichi yn Siapan.

Bydd aelodau mudiad PAWB (Pobl Atal Wylfa B) yn protestio rhwng 8 a 9 er mwyn codi ymwybyddiaeth am beryglon ynni niwclear a phwysleisio bod yr argyfwng yn parhau hyd heddiw.

Dywed y mudiad ei bod yn  bwysig cofio am ddioddefaint y miloedd o bobl a orfodwyd i adael eu cartrefi yn ardal Fukushima er mwyn dianc rhag gwenwyn ymbelydredd, ac am y gweithwyr sy’n peryglu eu hiechyd ar safle’r trychineb niwclear wrth geisio atal sefyllfa argyfyngus rhag troi’n un gwbl hunllefus.

‘Annerbyniol’

Dywedodd Robat Idris, llefarydd ar ran PAWB: “O ystyried yr argyfwng niwclear difrifol yn Fukushima, mae’n gwbl annerbyniol bod gwleidyddion ar bob lefel o lywodraeth yng Nghymru a Lloegr yn cerdded yn eu cwsg wrth gefnogi codi cenhedlaeth o orsafoedd niwclear newydd yn Hinkley Point, Sizewell, Wylfa ac Oldbury.

“Mae atebion rhatach a mwy ymarferol i ofynion trydan Cymru a’r Wladwriaeth Brydeinig trwy harnesu’r amrywiaeth eang o dechnolegau ynni adnewyddol sydd ar gael. Mae gwledydd blaengar yn Ewrop fel Denmarc, yr Almaen, yr Alban ac eraill yn dilyn y trywydd hwnnw.

“Nawr yw’r amser i ni yng Nghymru ddilyn eu hesiampl a chefnu ar broblemau dyrys a niferus ynni niwclear unwaith ac am byth. Dylai’r gwleidyddion hyn  ddwys ystyried mor amhriodol fyddai cefnogi Hitachi i godi Adweithyddion Dŵr Berwedig yn y Wylfa ac Oldbury o gofio bod gan y cwmni ran ym mhrosiect niwclear Fukushima.”