Mae Heddlu De Cymru a Chyngor Abertawe yn cynnal ymchwiliad ar y cyd i farwolaeth dyn a oedd yn gweithio yn nhafarn Walkabout yn Abertawe.

Daethpwyd o hyd i’r gweithiwr 20 oed yn y dafarn ar Wind Street yn ystod oriau man y bore ar 24 Chwefror, yn dioddef o anafiadau difrifol.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Treforys, Abertawe  a bu farw yno bedwar diwrnod yn ddiweddarach, ar 28 Chwefror.

Nid yw enw’r dyn wedi cael ei gyhoeddi ond mae ei deulu, yn ogystal â chrwner Abertawe, wedi cael gwybod am ei farwolaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Walkabout eu bod nhw’n cydymdeimlo a theulu’r dyn:

“Ein prif bryder yw diogelwch ein cwsmeriaid a’n gweithwyr, ac rydym yn cydweithio gyda’r gwasanaethau brys yn Abertawe er mwyn ceisio darganfod beth yn union ddigwyddodd.”