Mae Heddlu Dyfed Powys yn rhybuddio pobl am gyffur peryglus sy’n cael ei werthu yn ardal y Drenewydd.

Aethpwyd â dyn i’r ysbyty ar ôl cymryd cyffur ar ffurf tabled. Roedd y dyn wedi cael gwybod y byddai effaith y dabled yn para 18 awr.

Mae’r heddlu wedi rhyddhau datganiad sy’n atgoffa pobl fod cymryd cyffuriau presgripsiwn sydd ddim wedi cael eu rhoi gan ddoctor yn arbennig i chi yn beryglus iawn, ac maen nhw’n annog defnyddwyr cyffuriau i wrthod cyffuriau o’r fath.

Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth ynghylch camddefnyddio sylweddau i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555 111.