Mae’r heddlu yn galw am wybodaeth ar ôl i rywun ddwyn cemegyn peryglus o ardal Clydach yn Abertawe.

Roedd y cemegyn yn cael ei gadw mewn drwm 25 litr. Cafodd y drwm ei ddwyn dros nos, o lori a oedd wedi parcio yn ffatri Inco, Ffordd Glais, Clydach.

Mae’r Heddlu’n rhybuddio’r cyhoedd i beidio â chyffwrdd y cemegyn sy’n cael ei ddefnyddio mewn dŵr, gan ddweud y gallai fod yn beryglus.

Mae swyddogion yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu Abertawe ar 101 neu’n ddienw â Taclo’r Tacle’ 0800 555 111.