Ieuan Wyn Jones yn ymgyrchu y llynedd
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, wedi dweud y dylid newid enw ‘Llywodraeth y Cynulliad’ i ‘Lywodraeth Cymru’.

Daw ei alwad ar drothwy ymgyrch Etholiadau’r Cynulliad, ac ar ôl i Gymru bleidleisio dros ragor o bwerau i’r Cynulliad ddydd Iau.

Dywedodd Ieuan Wyn Jones, wrth lansio slogan newydd ei blaid ddoe, y bydd eu maniffesto yn cynnwys addewid i newid enw Llywodraeth y Cynulliad.

Cafodd enw Llywodraeth yr Alban ei newid o ‘Weithrediaeth yr Alban’ yn 2007.

Y gobaith medden nhw yw dod a’r dryswch rhwng y Cynulliad a Llywodraeth y Cynulliad i ben.

“Mae yna ddryswch wedi bod am yr enw,” meddai Ieuan Wyn Jones wrth bapur newydd y Western Mail.

“Y gobaith yw newid yr enw yn gyflym iawn, o bosib o fewn y Cynulliad nesaf.”

Ymgyrch

Ychwanegodd y byddai Plaid Cymru yn trafod â’r Blaid Lafur ynglŷn â sut fydd y ddau yn ymgyrchu yn erbyn ei gilydd dros y misoedd nesaf.

Fe fydd Etholiadau’r Cynulliad yn cael eu cynnal ar 5 Mai, ac mae disgwyl y gallai’r ddwy blaid ffurfio clymblaid arall yn dilyn hynny.

Dywedodd Plaid Cymru mai’r nod oedd osgoi ymosodiadau personol rhwng y ddwy blaid.

Daw hynny wedi i Ieuan Wyn Jones gyhuddo rhai o fewn y Blaid Lafur o ledu beirniadaeth amdano ddechrau mis Chwefror.