David T C Davies
Mae Aelod Seneddol Mynwy wedi rhybuddio Llywodraeth San Steffan rhag datganoli rhagor o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol gan ddweud bod ymdrechion Cymru o ran denu buddsoddiad o dramor wedi bod yn “drychinebus” ers datganoli.

Mewn dadl ar faterion Cymreig yn y Senedd dywedodd David T C Davies bod yr Alban a rhanbarthau yn Lloegr wedi llwyddo i godi eu proffil yn Ewrop “tra bod neb wedi clywed am unrhyw un yng Nghymru.”

“Mae denu buddsoddiad i’r wlad wedi bod yn drychineb yn y blynyddoedd ers i’r Cynulliad gael ei sefydlu,” meddai’r AS Ceidwadol.

Ar un adeg, meddai, roedd Cymru yn un o’r rhanbarthau mwyaf llwyddiannus yn y DU o ran denu buddsoddiad ond bod tro ar fyd ers datganoli.

“Ac mae ’na nifer o resymau am hynny, llawer o’r rheiny a ddaeth i’r amlwg yn dilyn ymchwiliad gan y pwyllgor dethol.

“Ry’n ni wedi clywed straeon am bobl gafodd eu rhoi mewn ‘llysgenadaethau’ mewn rhannau eraill o’r byd ond nad oedden nhw’n gallu siarad iaith y wlad lle’r oedden nhw i fod yn hyrwyddo Cymru. Pobl oedd ddim yn cael eu gweld na’u clywed.”

Ychwanegodd David T C Davies bod y problemau ym myd addysg hefyd wedi bod yn ffactor wrth i gwmnïau benderfynu lle i sefydlu eu hunain.