Mae’n ymddangos bod S4C yn cynllunio symudiad mawr oddi wrth raglenni teledu traddodiadol at deledu lleol a gwasanaethau ar y We.

Ac maen nhw’n bwriadu torri’r gwario ar raglenni confensiynol i £65 miliwn y flwyddyn nesa’ – er na fydd toriadau llawn y Llywodraeth yn digwydd tan 2015.

Mae cwmnïau teledu annibynnol wedi ymateb yn flin ar ôl cael clywed mai dim ond pythefnos sydd ganddyn i ymateb i’r cynlluniau er y gallen nhw olygu torri mwy na £30,000 yr awr oddi ar y pris am raglenni.

Fe gafodd gweledigaeth newydd S4C ei chynnig i’r cynhyrchwyr mewn cyfarfod yn Llandrindod dros y Sul ond mae mwy nag un o’r rhai oedd yno’n dweud bod y cwmnïau yn gytûn yn eu hanhapusrwydd gyda’r cynlluniau.

Teledu lleol a’r We

Mae’r ddogfen yn dechrau trwy roi pwyslais ar fuddsoddi mewn teledu lleol a gwasanaethau ar y We, gan gynnwys dod “yn brif borth” i gynnwys Cymraeg a Chymreig.

Mae un graff yn dangos gwasanaeth S4C.com yn tyfu’n fwy na gwasanaeth teledu S4C ar ôl 2012 – y nod fyddai gosod gwasanaethau S4C Lleol yng nghanol eu gwefan, gan gyfeirio pobol at wefannau eraill a chynnig cyfleoedd rhwydweithio a chyfle i bobol lwytho eu cynnwys eu hunain i’r safle.

Y dewis mwya’ a’r lleia’

Fe gafodd y cynhyrchwyr annibynnol eu hwynebu gan bedwar opsiwn o ran y gwasanaeth teledu.

• Y newid mwya’ drastig fyddai amserlen  gwbl agored, lle byddai pob cwmni’n cystadlu am bob awr, a phris yr awr ar gyfartaledd o £10,800. Mae cyfresi craidd ar hyn o bryd yn costio mwy na £43,000.

• Fe fyddai’r newid lleia’n golygu cadw at yr un oriau a’r un math o amserlen ag ar hyn o bryd, ond gyda thoriad o fwy na 28% yn y gwario ar raglenni.

Y ddau brif ddewis

Er eu bod yn dweud nad oes ffafraeth i unrhyw gynllun, roedd penaethiaid y sianel wedi rhoi llawer mwy o sylw i ddau opsiwn arall.

• Fe fyddai un yn golygu cael rhaglenni meithrin ac un rhaglen gylchgrawn yn ystod y dydd, rhaglen i blant a phobol ifanc tros 11 oed ddechrau min nos, cyfresi rheolaidd ac un awr amrywiol yn yr oriau brig rhwng saith a deg ac ailddarlledu Pobol y Cwm am ddeg rhwng nos Lun a nos Iau ac ar nos Sul.

Fe fyddai nos Sul hefyd wedi ei seilio ar “grefydd a diwylliant”, gydag un gyfres ddrama a rhaglenni addysg a dysgwyr yn y prynhawn.

Fe fyddai pris rhaglenni’n syrthio tuag £20,000 yr awr, gyda llawer rhagor o gyfresi hir, craidd, a dim ond tua pedair awr yr wythnos o “oriau rhydd” ar gyfer rhaglenni eraill.

• Fe fyddai’r opsiwn ola’n golygu rhaglenni meithrin trwy’r dydd – heb raglen gylchgrawn fel Wedi 3 – ychydig mwy o gyfresi hir, craidd a bron bump awr rydd bob wythnos o raglenni amrywiol. Fe fyddai’r gostyngiad ym mhris rhaglenni fesul awr yn llai.

Y weledigaeth

Wrth gyflwyno’r weledigaeth, mae S4C yn rhoi’r pwyslais ar ‘sefydlogrwydd’ a ‘hyblygrwydd’.  Dyma’r dyfyniad ar ddechrau’r cyflwyniad:

“Hyblygrwydd, er mwyn gallu ymateb i ddisgwyliadau’r gynulleidfa a’u harferion gwylio a thechnoleg sy’n esblygu trwy’r amser.  Sefydlogrwydd, er mwyn sicrhau cynaladwyedd y sector gynhyrchu a lleihau’r effaith andwyol ar y diwydiannau creadigol yn sgil y toriad i gyllideb S4C.”