Mae BBC Cymru wedi penodi Faith Penhale yn Bennaeth Drama newydd.

Bydd Penhale, a aned ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn ymuno â BBC Cymru o Kudos Film and Television, lle mae hi’n Rheolwr Creadigol ac yn Uwch Gynhyrchydd ar hyn o bryd.

Mae ei chynyrchiadau llwyddiannus yn cynnwys dramâu poblogaidd sydd wedi ennill gwobrau, megis Spooks ar gyfer BBC One a The Fixer ar gyfer ITV1.

Bydd hi’n dechrau ar y swydd yn ddiweddarach eleni, gan ysgwyddo cyfrifoldeb cyffredinol dros gyfeiriad strategol yr adran, gan gynnwys y strategaeth ddatblygu fewnol a chysylltiadau â chwmnïau annibynnol.

Bydd y pennaeth drama presenol, Piers Wenger, a ymunodd â BBC Cymru yn 2007, yn parhau â’i swydd yn arweinydd creadigol rhai rhaglenni, gan gynnwys Doctor Who.

Dywedodd y BBC ei fod yn dymuno canolbwyntio’n fwy penodol ar ddatblygiad creadigol prosiectau unigol, gan gynnwys addasiad pum rhan Syr Tom Stoppard o nofel Ford Madox Ford, Parade’s End, ar gyfer BBC Two.

Mae Faith Penhale yn ymuno wrth i BBC Cymru baratoi i symud I ganolfan cynhyrchu dramâu newydd Porth y Rhath ym Mae Caerdydd.

Fe fydd i Casualty, Doctor Who, Pobol y Cwm ac Upstairs Downstairs yn cael eu creu yno.

“Mae’n bleser gennyf ymuno ag adran mor gyffrous sydd â hanes llwyddiannus o gynhyrchu rhai o’r dramâu amlycaf ar y teledu ym Mhrydain,” meddai Faith Penhale.

“Rwy’n gobeithio y bydd fy mhrofiad yn Kudos yn helpu i ddatblygu’r adran ymhellach ac adeiladu ar ei llwyddiant.”