Bae Caerdydd
Mae arweinwyr cynghorau Caerdydd, Bryste a Swindon wedi cytuno i weithio â’i gilydd yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd yr wythnos diwethaf y bydd y ddwy ddinas a thref yn cael eu cysylltu gan reilffordd trydan cyflym o Gaerdydd i Lundain.

Roedd y tri chyngor wedi cydweithio yn barod wrth geisio annog Llywodraeth San Steffan i drydaneiddio’r rheilffordd. Cadarnhawyd y byddai hynny’n digwydd ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Fe fydd Memorandwm Dealltwriaeth Ffordd y Gorllewin yn cael ei ystyried gan gabinetau’r cynghorau dros yr wythnosau nesaf.

“Mae llwyddiant y tri chyngor wrth weithio â’i gilydd i lobio am drydaneiddio’r rheilffordd yn dangos beth ydan ni’n gallu ei gyflawni,” meddai arweinydd cyngor Caerdydd, Rodney Berman.

“Yn draddodiadol mae Caerdydd wedi canolbwyntio ar gyd-weithio â chynghorau eraill Cymru ond gan fod Bryste a Swindon yn yr un corridor economaidd mae’n gwneud synnwyr i ni gyd-weithio’n agosach â nhw.

“Mae Caerdydd, Bryste a Swindon yn wynebu’r un her strategol ac economaidd. Dw i’n credu y bydd ein hymateb ni i’r heriau rheini yn gryfach os ydyn nhw’n cydweithio ar ystod eang o bynciau.”