Ieuan Wyn Jones
Mae Plaid Cymru wedi lansio ei slogan ar gyfer Etholiadau’r Cynullias mewn deufis – ‘Plaid. Dros Gymru Well’.
Dywedodd y Blaid eu bod nhw’n gobeithio cysylltu â dros hanner miliwn o bobol drwy ddosbarthiad papurau newydd, a hysbysebu stryd yn gem rygbi rhyngwladol rhwng Cymru a Iwerddon.
Maen nhw hefyd yn gobeithio hysbysebu ar-lein ar twitter a facebook dros yr wythnos nesaf.
Dywedodd y blaid bod eu slogan “Dros Gymru Well” yn gyferbyniad i oruchafiaeth sydd gan San Steffan gan y pleidiau eraill yng Nghymru.
Tra bod pleidiau gwleidyddol eraill yn trin 5 Mai yn etholiad ‘canol tymor’, dyna brif ganolbwynt Plaid Cymru, medden nhw.
“Mi roedd canlyniad y refferendwm wythnos ddiwethaf yn llwyddiant gwych i Blaid Cymru mewn llywodraeth ac i Gymru fel cenedl,” meddai arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones.
“Fodd bynnag yn hytrach na bod yn ddiwedd ymgyrch, i ni, fe nodir gychwyn ar rywbeth mwy. Mae’r bleidlais llethol Ie yn ddechrau ar ddegawd o gyflawni dros ddatganoli, ac yn ddegawd yr ydym am gychwyn ar ôl y pôl fis Mai gyda llywodraeth Plaid gyffroes ac uchelgeisiol.”
Cychwyn yr ymgyrch
“Fel rydym yn siarad, mae’r chwarter miliwn gyntaf o gopïau o’n papur cenedlaethol yn cael ei argraffu a’i ddosbarthu gan dimau ar hyd a lled Cymru. Yn cychwyn heddiw rydym allan yn ymgyrchu ar draws Cymru, yn dweud wrth bobol sut bydd yr etholiad nesaf yn gyfle iddynt sylweddoli eu huchelgais a ddangoswyd wythnos diwethaf yn y refferendwm.”
Dywedodd y byddai’r pleidliau eraill “yn parhau gyda’r ffrwgwd rhwng San Steffan gan ddefnyddio’r etholiad cyffredinol fel rhan o gem wleidyddol ehangach”.
“Gadewch iddynt barhau, ond mae ein hymgyrch ni yn mynd i fod am wneud y gwaith o redeg Cymru gan wella ar ein system addysg ac ein heconomi yn y blynyddoedd heriol sydd o’n blaenau.
“Mae Cymru angen llywodraeth sydd yn uchelgeisiol er mwyn defnyddio pwerau newydd y Cynulliad er budd Cymru – dim mwy o ofyn caniatâd, dim mwy o esgusodion.
“Yn yr etholiad yma, mi fyddwn yn gofyn i bobol bleidleisio Plaid am Gymru well.”