Ar y diwrnod cyntaf yn ôl ers ennill grymoedd deddfu llawn, mae un o bwyllgorau’r Cynulliad wedi codi amheuon am ei broses ddeddfwriaethol.

Yn ôl y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol, mae gwelliannau hwyr a sylweddol i Fesur arfaethedig gan Lywodraeth Cymru wedi arwain at ‘ddrwgdybiaeth am gymhellion cudd’.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru welliannau i’r Mesur Llywodreath Leol a allai ganiatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru gael eu cyfuno o dan rai amgylchiadau.

Mae adroddiad gan y pwyllgor yn dweud na chafwyd eglurhad digonol ynghylch pam roedd angen y pwerau ychwanegol a sut y byddent yn cael eu defnyddio’n ymarferol.

“Mae’r ffordd y cafodd y gwelliannau hyn eu cyflwyno yn ein pryderu’n fawr iawn,” meddai Janet Ryder, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Cyflwynwyd y gwelliannau heb iddynt gael eu trafod gan y Cynulliad ac heb i ni ymgynghori â sefydliadau allanol, ac ni chawsant eu hawgrymu gan unrhyw un o’r tystion.

“Gallai hyn godi amheuon ynghylch cymhellion Llywodraeth Cymru ac ynghylch y broses ddeddfu yng Nghymru.”

Ail-lunio’r map

“Er y gwnaeth y Gweinidog ein sicrhau nad dyna oedd ei fwriad, byddai’r gwelliannau hyn yn caniatáu i unrhyw Weinidog yn y dyfodol ail-lunio map llywodraeth leol Cymru, os oedd yn dymuno gwneud hynny.

“Mae hefyd yn codi gormod o amheuon ynghylch sut y byddant yn gweithio’n ymarferol, faint y bydd hynny’n ei gostio a pham na ellid defnyddio dulliau amgen, llai radical i gyflawni canlyniadau tebyg.
“Rydym am sicrhau nad oes unrhyw amheuaeth o gwbl bod hon yn gynsail y dylid atal llywodraethau’r dyfodol rhag ei defnyddio, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.”