Llun: Derek Ramsey (Trwydded GNU)
Mae trefnydd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth wedi galw ar drigolion trefi eraill i gynnal rhai cyffelyb a dathlu Cymreictod ar ddydd gŵyl y nawdd sant.

Mewn sylwadau ar golwg360, galwodd Sion Jobbins ar drefi fel Caerfyddin, Merthyr, Pontypridd, Bala, Dinbych ag Abertawe i ddilyn esiampl Aberystwyth.

“Mae’r neges yn glir,” meddai Sion Jobbins. “Mae’r cyfnod o fod yn Gymry gwylaidd, hynny yw dihyder ac yn reddfol gytuno gyda’r meddylfryd Brydeinig ein bod ni’n bobl heb ddim i’w ddathlu drosodd.”

Cynigiodd rannu profiadau’r trefnwyr yn Aberystwyth efo trefnwyr mewn rhannau eraill o Gymru.

“Rwy’n barod iawn i rannu profiadau Aberystwyth gydag unrhyw un,” meddai gan ychwanegu y bydd gan bob parêd ei stamp lleol ei hun.

“Wrth gwrs, bydd natur, enw a maint pob digwyddiad yn wahanol,” meddai.

Digwyddiadau’r dydd

Fe fydd nifer o drefi a dinasoedd Cymru’n cynnal digwyddiadau heddiw ac yfory, wrth i bobl ar hyd a lled y wlad wneud y pethau bychain i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi Sant.

Bydd gorymdeithiau heddiw mewn nifer o drefi gan gynnwys Wrecsam, Caernarfon, Aberystwyth, Pwllheli a Chaerdydd

Bydd yr orymdaith flynyddol yn dychwelyd i’r brifddinas unwaith eto eleni, gyda’r miri’n dechrau wrth Neuadd y Ddinas am 12.30 y prynhawn yma cyn ymlwybro tuag at Gastell Caerdydd.

Yn ogystal â’r cerddorion, dawnswyr a’r gwisgoedd traddodiadol fe fydd y modelau’r cewri enwog – gan gynnwys Owain Glyndŵr, Shirley Bassey, Tom Jones, Gethin Jenkins a Nessa – yn eu holau eto eleni.

Fe fydd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth yn digwydd y prynhawn yma ar ôl ei chynnal am y tro cyntaf y llynedd, gan ddechrau am 1yp wrth Gloc y Dre, ac yn cynnwys gig gwerin am ddim yn nhafarn y Llew Du am 3yp.

Bydd tref Caernarfon hefyd yn cynnal parêd gan ddechrau wrth Morrisons am 10yb, gyda digwyddiadau cerddorol a llenyddol eraill hefyd yn digwydd yn ystod y dydd.

Mae parêdiau hefyd wedi’u trefnu ym Mhwllheli, am y tro cyntaf eleni – gan ddechrau am 1yp o Ysgol Glan Y Môr yn y dre’ a hefyd yn Wrecsam, ble bydd y gorymdeithwyr yn gadael tafarn y Saith Seren am 11yb.

Ffeiriau a digwyddiadau eraill

Abertawe – Marchnad fwyd, gweithgareddau crefftau, a diwrnod Cawl a Chân

Y Bala – Stondinau, crefftau a cherddoriaeth – ac ymgais i dorri record byd am wneud y gacen gri fwyaf erioed

Dinbych – Ffair Dydd Gŵyl Dewi, gan gynnwys stondinau bwyd

Llanelli – Dathliadau’n cynnwys cyngerdd mawreddog yn cynnwys y Tri Tenor a chorau meibion a merched

Yr Wyddgrug – Stondinau, helfa drysor a straeon i blant yng nghanol y dre

Ar draws Cymru – Mynediad am ddim i nifer o safleoedd hanesyddol Cadw, yn cynnwys cestyll Biwmares, Caernarfon, Caerffili, Cydweli, Conwy, Harlech a Rhuddlan